Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth ariannol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Taliad o £500 yw'r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn, ac nid oes raid talu'r arian yn ôl.
I fod yn gymwys ar gyfer hyn, mae'n rhaid i chi neu'ch partner fod yn derbyn Lwfans Gweithio yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu, neu Gredyd Treth Gwaith lle mae gweithiwr anabl yn gynwysedig yn yr asesiad .
Dylech hawlio:
Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu yn y Gwasanaeth Pensiwn am ffurflen Cychwyn Cadarn SF100 er mwyn hawlio.
Gall Taliad Angladd helpu gyda chostau hanfodol angladd yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol am ei drefnu.
I fod yn gymwys ar gyfer hyn, mae'n rhaid i chi neu'ch partner fod yn derbyn Lwfans Gweithio yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu, neu Gredyd Treth Gwaith lle mae gweithiwr anabl yn gynwysedig yn yr asesiad.
Fe ellir hawlio'r arian yn ôl o unrhyw arian sydd ar gael yn ystad yr ymadawedig.
Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.
Does dim rhaid ad-dalu Grant Gofal yn y Gymuned (o £30 hyd at £1,000).
I fod yn gymwys mae gofyn eich bod yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn, taliad ar gyfrif un o'r rhain, neu'n debygol o gael un o'r budd-daliadau neu hawliau hyn pan fyddwch chi'n symud o lety sefydliadol neu breswyl.
Gellir dyfarnu grantiau er mwyn helpu pobl:
Gellir hefyd ddyfarnu grantiau i helpu i hwyluso pwysau eithriadol ar deuluoedd, i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc a ryddhawyd ar drwydded dros dro, neu i helpu â chostau teithio.
Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.
Mae benthyciadau cyllidebu yn ddi-log (cyfanswm o £30 hyd at £1,000) am gost pethau ac eithrio costau rheolaidd (e.e. dodrefn, offer tŷ, dillad, esgidiau, pethau i'ch helpu i chwilio am neu gychwyn gwaith).
I fod yn gymwys mae gofyn eich bod chi neu'ch partner wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn, neu daliad ar gyfrif un o'r rhain, am o leiaf 26 wythnos.
Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.
Mae Benthyciadau Argyfwng yn ddi-log a gallant helpu os yw eich iechyd a'ch diogelwch chi neu'ch teulu mewn perygl difrifol yn dilyn argyfwng neu drychineb. Nid yw'n ofynnol eich bod yn cael unrhyw fudd-daliadau ond mae'n rhaid i chi fod dros 16 oed. Mae eich gobaith o gael Benthyciad Argyfwng yn dibynu ar eich amgylchiadau penodol.
Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio a mwy o wybodaeth.
Mae Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl gyflogedig a hunan-gyflogedig sydd fel rheol yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos am dâl ac sydd naill ai:
Os nad oes un o’r rhain yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn 25 mlwydd oed neu drosodd ac fel arfer bod yn gweithio am o leiaf 30 awr yr wythnos.
Fel rhan o Gredyd Treth Gwaith gallech fod yn gymwys i dderbyn help tuag at gost gofal plant (sy'n cael ei adnabod fel yr elfen gofal plant) - mae hyn werth hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant hyd at uchafswm o £175 ar gyfer un plentyn a £300 ar gyfer dau neu fwy o blant yn wythnosol.