Fel rhiant, efallai bod gennych hawl i gymorth ariannol, gan gynnwys Lwfans Rhiant Gweddw, Taliad Profedigaeth neu Daliad Angladd, os bydd eich partner yn marw.
Efallai y byddwch yn gallu cael taliad rheolaidd Lwfans Rhiant Gweddw dan yr amodau hyn:
Mae'r swm y gallwch ei gael yn seiliedig ar gyfraniadau YG eich diweddar ŵr neu wraig. Y lwfans yw £75.50 ac yn ogystal â hyn gellir cael rhwng £9.65 a £11.35 ar gyfer pob plentyn.
Am fwy o wybodaeth ac i wneud hawliad, cysylltwch â'ch Canolfan Gwaith leol, neu gallwch lwytho ffurflen hawlio o'r ddolen isod.
Efallai y gallwch dderbyn un taliad o £2,000 os ydych o dan yr oedran ar gyfer derbyn pensiwn gwladol (60 i fenywod neu 65 i ddynion) ac yn weddw/gŵr gweddw i briod nad oedd â'r hawl i Bensiwn Ymddeol Categori A pan fu ef/hi farw (lle mae digon o Gyfraniadau YG wedi eu talu), neu yn weddw/gŵr gweddw i briod sydd wedi talu Cyfraniadau YG.
Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, Yr Asiantaeth Budd-daliadau neu'r Swyddfa Nawdd Cymdeithasol am fwy o wybodaeth.
Gallwch gael un taliad i helpu tuag at gostau angladd os ydych chi neu'ch partner naill ai'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor, Credyd Treth i Bobl mewn Gwaith lle mae gweithiwr anabl yn gynwysedig yn yr asesiad, neu Gredyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu. Cewch wneud cais unrhyw dro ar ôl y dyddiad y bu farw'r person a hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd.
Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol er mwyn cael ffurflen hawlio neu gallwch gael mwy o wybodaeth neu lwytho ffurflen o'r ddolen isod.