Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhieni unigol

Os ydych chi'n magu plentyn a chithau'n rhiant unigol ceir ystod eang o gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo, p'un ai a ydych yn gweithio, yn chwilio am waith neu ddim yn gallu gweithio.

Cynhaliaeth Plant

Mae Cynhaliaeth Plant yn gymorth ariannol rheolaidd. Bydd yn cael ei dalu gan riant nad yw'n byw gyda'r teulu i'r rhiant â gofal er mwyn helpu gyda chostau byw bob dydd y plentyn. Fe'i telir fel arfer ar sail incwm y rhiant nad yw'n byw gyda'r teulu, a gellir ei drefnu naill ai drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant neu drwy drefniant preifat. Fel rhiant, nid yw eich cyfrifoldeb ariannol dros eich plentyn yn dod i ben os yw eich perthynas gyda'r rhiant arall yn dod i ben.

Hawlio cynhaliaeth gan rywun sy'n byw dramor

Mae gan Brydain drefniant gyda dros 100 o wledydd a thiriogaethau dramor sy'n caniatáu i berson sy'n byw mewn un awdurdod hawlio cynhaliaeth gan gyn-bartner sy'n byw mewn awdurdod arall. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Gorfodaeth Ddwyffordd gyda Gorchmynion Cynhaliaeth (REMO).

Bonws Cynhaliaeth Plant

Efallai fod gennych hawl i gael y Bonws Cynhaliaeth Plant os ydych chi wedi bod yn cael Cynhaliaeth Plant dan hen gynllun yr Asiantaeth Cynnal Plant (a gyfrifwyd cyn 3 Mawrth 2003) a bod eich budd-dal yn dod i ben gan fod eich incwm wedi codi neu oherwydd y byddwch yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Premiwm Cynhaliaeth Plant

Nid yw'r Bonws Cynhaliaeth Plant ar gael i bobl sy'n cael Cynhaliaeth Plant dan gynllun newydd yr Asiantaeth Cynnal Plant (a gyfrifwyd ar ôl 3 Mawrth 2003). Os ydych chi'n rhiant sy'n gofalu am eich plentyn a bod rhywun yn eich cartref yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, bob wythnos, cewch gadw hyd at £10 o unrhyw Gynhaliaeth Plant a delir ar gyfer eich plentyn. Gelwir hyn yn 'Bremiwm Cynhaliaeth Plant'.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych chi'n gallu chwilio am waith â thâl amser llawn neu ran-amser fe allech chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. I gael gwybod a ydych yn gymwys, cliciwch ar y ddolen isod.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych chi'n gallu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd efallai y bydd modd i chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cymorth personol ac ariannol i chi fel y gallwch weithio os ydych chi'n gallu. Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, cewch elfen cymorth yn ogystal â'r gyfradd sylfaenol.

Cymhorthdal Incwm

Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. I gael gwybod os ydych yn gymwys ac i wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Credyd Mewn Gwaith

Taliad di-dreth o £40 i rieni unigol (£60 i rieni yn Llundain) yw'r Credyd Mewn Gwaith. Fe'i telir i rieni unigol sydd wedi hawlio budd-daliadau am flwyddyn neu fwy ac yn mynd yn ôl i weithio am o leiaf 16 awr yr wythnos. Telir Credyd Gwaith am flwyddyn ar ben budd-daliadau gwaith eraill. I gael gwybod mwy, holwch rywun yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Costau gofal plant

Gall y Ganolfan Byd Gwaith helpu gyda chostau gofal plant ar yr amod y bydd eich plentyn yn cael ei warchod gan ddarparwr gofal plant cofrestredig a'ch bod yn gwneud rhywbeth sy'n gysylltiedig â'r yrfa yr ydych wedi'i dewis, fel y cytunwyd gyda'r Ganolfan Byd Gwaith. Unwaith y byddwch yn gweithio, mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith, a allai eich galluogi i hawlio'n ôl hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.

Grant Swydd

Un taliad di-dreth yw'r Grant Swydd. Gallwch gael y taliad hwn pan fyddwch chi'n dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn stopio cael budd-daliadau. Efallai y bydd gennych hawl i gael Grant Swydd os byddwch yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos, os nad oes gennych bartner sy'n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos a'ch bod yn disgwyl i'ch gwaith bara am bum wythnos o leiaf. Rhaid eich bod hefyd wedi hawlio un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau ar eich swydd newydd:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau Lwfans y Fargen Newydd/Ychwanegol lle mae'r lwfans yn seiliedig ar y Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd neu'r Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau Ardal Gyflogaeth lle mae'r lwfans yn seiliedig ar y Lwfans Ceisio Gwaith

Chwilio am waith, gofal plant a chyngor ariannol

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi creu Pecyn Dewisiadau ar gyfer rhieni unigol sy'n ystyried gweithio. Mae'n cynnwys cyngor ar chwilio am waith, gofal plant a chymorth ariannol. Gallwch archebu un drwy ffonio 0800 085 5701.

Allweddumynediad llywodraeth y DU