Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Cynhaliaeth Addysg: y ffeithiau i rieni a gofalwyr

Os bydd eich plentyn yn aros yn y maes dysgu ar ôl 16, gallai'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg roi hyd at £30 yr wythnos iddynt i helpu gyda'u costau. Ni fydd yn cael dim effaith ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi yn eu cael.

Helpu eich plentyn i fwrw ymlaen â'i fywyd

Mae llawer o ddewisiadau dysgu i'ch plentyn os yw'n 16, 17 neu'n 18 oed ac wedi gadael addysg orfodol neu ar fin gwneud hynny.

Beth bynnag fo'i uchelgais, gall ddod o hyd i'r cwrs cywir, o waith gweinyddol mewn swyddfa i gyfryngau digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg i deithio, twristiaeth a lletygarwch.

A bydd yn gallu dod o hyd i ffordd o ddysgu addas iddo hefyd. Efallai y bydd hyn yn golygu aros yn y chweched dosbarth, mewn coleg neu mewn gwaith. Mae cymwysterau galwedigaethol yn darparu hyfforddiant gwych ar gyfer gwaith a bywyd hefyd.

A ydych am sicrhau eich bod yn cynnig y cyngor cywir? Mae digon o help ar gael. Ffoniwch linell gymorth y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar 0800 121 8989, neu cysylltwch â'ch gwasanaeth Connexions lleol.

Sut gall y Lwfans Cynhaliaeth Addysg helpu eich plentyn?

Diben y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yw helpu gyda rhai costau, a helpu eich plentyn i barhau i ddysgu.

Os yw incwm eich cartref yn llai na £30,810 yna gall eich plentyn gael £10, £20 neu £30 yr wythnos fel help gyda chostau llyfrau, teithio neu offer.

Edrychwch ar y tabl isod i weld beth allant ei gael.

Incwm eich cartref (blwyddyn ariannol 07/08): Faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg a allai eich plentyn gael
hyd at £20,817 y flwyddyn £30 yr wythnos
£20,818 - £25,521 y flwyddyn £20 yr wythnos
£25,522 - £30,810 y flwyddyn £10 yr wythnos
mwy na £30,810 y flwyddyn ni fyddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Caiff yr arian hwn ei dalu'n syth i gyfrif banc eich plentyn. I gael ei daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen iddo agor cyfrif os nad oes ganddo un eisoes.

Beth mae angen i chi ei ddarparu?

I gwblhau'r ffurflen gais bydd angen i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol.

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol. Gallai'r dystiolaeth fod yn Hysbysiad am Ddyfarniadau Credyd Treth (TC602) neu'n ffurflen P60.

I gael gwybod rhagor am Gredydau Treth a ffurflenni P60, dilynwch y dolenni isod.

Mae meini prawf eraill i'w bodloni er mwyn i'ch plentyn fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan gynnwys oedran a math o gwrs. I wybod a yw eich plentyn yn gymwys, cliciwch ar y ddolen isod.

Beth am hawlio budd-daliadau eraill?

Y newyddion da yw nad yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu hawlio eisoes. Felly mae gennych yr hawl i barhau i hawlio budd-dal plant, credydau treth a mathau eraill o gymorth.

Cael gwybod mwy

I gael gwybod mwy am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gallwch ffonio llinell gymorth y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar 0800 121 8989, neu dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU