Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tâl mamolaeth

Os ydych chi'n gweithio ac yn cael babi, does dim ots a ydych chi'n gweithio'n llawn amser ynteu'n rhan-amser, bydd gennych yr hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol cyn belled â'ch bod yn bodloni rhai amodau. Dewch i wybod am yr amodau hyn ac am eich hawliau.

Tâl mamolaeth - y ffeithiau syml

cael help personol i gael gwybod beth rydych chi’n gymwys ar ei gyfer

Bydd y tâl mamolaeth a gewch chi o bosib yn amrywio'n dibynnu ar eich amgylchiadau. Fel arfer, byddwch yn hawlio naill ai:

  • tâl mamolaeth statudol neu dâl mamolaeth contractaidd gan eich cyflogwr
  • neu Lwfans Mamolaeth drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, neu swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon

Hefyd, mae nifer o fudd-daliadau eraill y gallech fod â hawl iddynt.

Gallwch gael help personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).

Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb mamolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.

Tâl mamolaeth contractaidd (cwmni)

Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun tâl mamolaeth ei hun. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch yr adran adnoddau dynol neu’r adran bersonél. Bydd ambell gynllun cwmni'n gofyn i chi dalu rhywfaint o'r arian yn ôl os na fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gael eich talu yr un faint â Thâl Mamolaeth Statudol (os ydych chi’n gymwys), o leiaf. Nid oes raid i Dâl Mamolaeth Statudol gael ei ad-dalu.

Tâl Mamolaeth Statudol

Telir Tâl Mamolaeth Statudol am hyd at 39 wythnos, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion.

Os oes gennych hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol, fe gewch chi'r arian hwnnw hyd yn oed os penderfynwch chi adael eich swydd cyn dechrau ei dderbyn. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl os penderfynwch chi beidio â dychwelyd i'r gwaith neu os byddwch chi'n gadael eich swydd tra byddwch chi'n derbyn y Tâl Mamolaeth Statudol.

Os ydych chi'n gyflogedig, cewch ddewis pa bryd rydych chi am i'ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau; bydd hyn fel arfer yn cyd-daro â'ch Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin. Oni bai bod eich plentyn yn cael ei eni'n gynt, y cynharaf y gall y Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau yw 11 wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gyrraedd.

Faint o Dâl Mamolaeth Statudol gewch chi

Os cewch chi Dâl Mamolaeth Statudol, bydd eich cyflogwr yn talu 90 y cant o gyfartaledd eich enillion wythnosol am y chwe wythnos cyntaf, ac yna hyd at £117.18 am y 33 wythnos sy'n weddill. Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol yn yr un modd ag yr oeddech gyda'ch cyflog arferol. Bydd eich cyflogwr yn adhawlio'r rhan fwyaf o'r Tâl Mamolaeth Statudol o'u cyfraniadau Yswiriant Gwladol a thaliadau eraill. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi, fel cyflogai, dalu treth ac yswiriant gwladol (neu y byddech yn ei dalu pe baech chi'n ennill digon neu’n ddigon hen).

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi'n gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol?

Lwfans Mamolaeth

Os na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae'n bosibl y gallwch chi gael Lwfans Mamolaeth:

  • os ydych chi'n gyflogedig
  • os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, neu fod gennych dystysgrif Eithrio Enillion Isel
  • os nad ydych yn gyflogedig nac yn hunangyflogedig ond eich bod wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn agos at gyfnod eich beichiogrwydd neu'n ystod cyfnod eich beichiogrwydd

Dyma'r amodau:

  • eich bod wedi bod (naill ai'n gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig) am o leiaf 26 o'r 66 wythnos cyn yr wythnos pan ddisgwylid i'ch babi gyrraedd (mae rhan o wythnos yn cyfri fel wythnos gyfan).
  • eich bod wedi ennill £30 ar gyfartaledd yn ystod unrhyw 13 wythnos o'r 66 wythnos hynny

Cyfradd safonol y Lwfans Mamolaeth yw £117.18 neu 90 y cant o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd, pa un bynnag sydd leiaf. Telir y Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos; does dim rhaid talu treth incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol arno.

Budd-daliadau teulu eraill y gallech chi fod â hawl iddynt

Mae nifer o fudd-daliadau ychwanegol ar gael i ferched beichiog a mamau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn, Budd-dal Plant, presgripsiynau a thrin dannedd am ddim a Chredydau Treth. Eich sefyllfa bersonol fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ar gyfer y budd-daliadau hyn ai peidio.

Os cewch chi drafferthion

Os ydych chi'n bendant yn gymwys i gael tâl mamolaeth a bod eich cyflogwr yn gwrthod ei dalu i chi, ystyrir ei fod yn torri'r gyfraith drwy dynnu'r arian o'ch cyflog. Fe all hefyd fod yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw.

Os ydych chi'n meddwl y dylech chi fod yn cael Tâl Mamolaeth Statudol ond bod eich cyflogwr yn anghytuno, mynnwch sgwrs â nhw, ac esboniwch eich hawliau. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y byddwch am gwyno gan ddefnyddio trefn gwyno fewnol eich cyflogwr neu, ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol, dylech ffonio tîm Anghydfodau Taliadau Statudol Cyllid a Thollau EM ar 0191 2255221 – gallant hwy ddatrys y mater. Rhaid gwneud cais i Gyllid a Thollau EM o fewn 6 mis ar ôl i'ch cyflogwr wrthod talu i chi yn y lle cyntaf.

Ble i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cydberthynas Lafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon. Fe allwch chi gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU