Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Absenoldeb a thâl mabwysiadu: pwy sy'n gymwys a faint allech chi ei gael

Dewch i wybod mwy ynghylch a oes gennych chi hawl i gael absenoldeb a thâl mabwysiadu, faint ydych chi’n gymwys i’w gael, a chyngor am sut i ddweud wrth eich cyflogwr a beth i’w wneud os byddwch yn wynebu unrhyw broblemau.

Pwy sydd â'r hawl i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol?

I fod yn gymwys ar gyfer cyfnod o absenoldeb, rhaid i chi fodloni'r amodau hyn:

  • bod asiantaeth fabwysiadu wedi'ch paru o'r newydd â phlentyn (ystyr 'paru' yw bod yr asiantaeth fabwysiadu'n rhoi i chi fanylion y plentyn sydd yn eu tyb nhw'n addas i chi ei fabwysiadu).
  • eich bod wedi gweithio'n ddi-dor i'ch cyflogwr presennol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau'r wythnos pan gewch eich paru â phlentyn

I fod yn gymwys ar gyfer tâl, rhaid i chi hefyd:

  • fod yn ennill mwy na'r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (£90 yr wythnos ar hyn o bryd)

Rhaid i chi roi prawf dogfennol i'ch cyflogwr, fel arfer tystysgrif baru gan eich asiantaeth fabwysiadu, i ddangos bod gennych yr hawl i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu gyda thâl.

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu fod yn un sy'n cael ei chydnabod yn briodol dan gyfraith y DU. Nid oes gennych unrhyw hawliau statudol os byddwch yn trefnu i fabwysiadu'n breifat.

Os byddwch chi’n mabwysiadu plentyn yr ydych yn ei faethu, rhaid i chi gael eich paru gan asiantaeth gydnabyddedig er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl mabwysiadu. Rhaid i chi hefyd fodloni’r meini prawf cymhwyso erbyn y dyddiad pan fyddwch yn cael hysbysiad am y paru. Bydd y cyfnod yn dechrau pan leolir y plentyn gyda chi i’w fabwysiadu.

Fel arfer, fyddwch chi ddim yn gallu cael absenoldeb neu dâl mabwysiadu os ydych chi’n dod yn warcheidwad arbennig, yn mabwysiadu llysblentyn neu’n cael plentyn drwy fenthyg croth neu gytundeb mabwysiadu preifat.

Opsiynau eraill

Os na allwch chi gael cyfnod o absenoldeb mabwysiadu gyda thâl, fe allech ddewis cymryd gwyliau gyda thâl neu gyfnod o absenoldeb neu absenoldeb rhiant heb dâl.

Faint o absenoldeb mabwysiadu gewch chi

Bydd gan fabwysiadwyr sy'n bodloni'r amodau cyflogaeth yr hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Arferol a hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol ar ôl hynny.

Pryd gewch chi ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb?

Cewch ddechrau'r cyfnod o absenoldeb:

  • o'r dyddiad pan fydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi, neu
  • ar ddyddiad cyn hynny hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad yr ydych chi'n disgwyl i'r plentyn ddechrau byw gyda chi

Gallwch ddechrau'r cyfnod o absenoldeb ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.

Faint o Dâl Mabwysiadu Statudol gewch chi

Bydd Tâl Mabwysiadu Statudol yn dechrau yr un pryd â'ch absenoldeb mabwysiadu ac (oni bai bod eich absenoldeb yn dod i ben yn gynt) fe'i telir am 39 wythnos.

Os ydych chi'n gymwys, fe gewch Dâl Mabwysiadu Statudol o £117.18 yr wythnos neu 90 y cant o gyfartaledd eich enillion wythnosol, pa un bynnag yw'r lleiaf. Fe gewch eich talu gan eich cyflogwr yn yr un ffordd ag y byddwch yn cael eich cyflog fel arfer, a byddwch yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y ffordd arferol.

Os nad ydych chi'n ennill digon i fod yn gymwys

Os byddwch chi'n bodloni'r amodau eraill ond yn ennill llai na'r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol, byddwch chi’n dal i fod â hawl i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu heb dâl. Mae'n bosib y cewch chi Gymhorthdal Incwm yn ystod y cyfnod o absenoldeb.

Dweud wrth eich cyflogwr eich bod am gael cyfnod o absenoldeb mabwysiadu

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod am gael cyfnod o absenoldeb mabwysiadu o fewn saith niwrnod i gael gwybod eich bod wedi'ch paru gyda phlentyn i'w fabwysiadu. Os nad yw’n bosib i chi dweud wrth eich cyflogwr o fewn saith diwrnod, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt mor gynted â phosib.

Ar yr un pryd, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr:

  • pryd y disgwylir i'r plentyn ddod atoch
  • pryd yr ydych am ddechrau'r cyfnod o absenoldeb mabwysiadu

Cewch newid y dyddiad dechrau ar yr amod eich bod yn rhoi 28 diwrnod o rybudd.

Dylai’ch cyflogwr ddweud wrthych ar ba ddyddiad y bydd eich absenoldeb mabwysiadu yn dod i ben o fewn 28 diwrnod i dderbyn eich hysbysiad. Bydd hyn 52 wythnos ar ôl iddo ddechrau. Gallwch ddychwelyd cyn hyn cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod i'ch cyflogwr wyth wythnos ymlaen llaw.

Os byddwch yn gadael eich swydd

Os ydych chi’n gymwys i gael Tâl Mabwysiadu Statudol ond eich bod yn gadael eich swydd am unrhyw reswm – gan gynnwys cael eich diswyddo – rydych chi'n dal i fod â hawl i Dâl Mabwysiadu Statudol. Fodd bynnag, os byddwch chi’n dechrau gweithio i gyflogwr gwahanol, chewch chi ddim derbyn Tâl Mabwysiadu Statudol am unrhyw wythnos pan fyddwch yn gweithio i’r cyflogwr newydd.

Os yw'ch contract yn dod i ben cyn i’r taliadau Tâl Mabwysiadu Statudol ddechrau, dylai’r taliadau ddechrau 14 diwrnod cyn dechrau cyfnod y lleoli. Os yw’r contract yn dod i ben yn ystod y 14 diwrnod hynny, bydd y tâl yn dechrau ar y diwrnod sy’n dilyn y diwrnod olaf o waith.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os cewch chi drafferth i gael yr hyn y mae gennych hawl iddo, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os ydych chi'n dal yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble mae cael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Fe allwch chi hefyd gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw os ydych chi'n aelod o undeb llafur

Mwy o ddolenni defnyddiol

Absenoldeb a thâl mabwysiadu : cael gwybod mwy

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU