Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Absenoldeb a thâl mabwysiadu: cyflwyniad

Os byddwch chi'n mabwysiadu plentyn, mae'n bosib y bydd gennych chi'r hawl i 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu. Mae'n bosib hefyd y bydd gennych yr hawl i gael tâl am hyd at 39 wythnos o'r absenoldeb. Dewch i wybod mwy am yr amodau ac am eich hawliau.

Absenoldeb a thâl mabwysiadu - y ffeithiau syml

Ceir Absenoldeb Mabwysiadu Statudol am 52 wythnos. Ceir Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at 39 wythnos a gellir cael hyd at £117.18 (£123.06 o 5 Ebrill 2009) bob wythnos.

Os byddwch chi'n mabwysiadu plentyn ar eich pen eich hun, neu os ydych chi'n un o gwpwl sy'n mabwysiadu gyda'i gilydd, mae gennych yr hawl i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu gyda thâl. Gall y cwpwl benderfynu pa un ohonyn nhw sy'n mynd i fod yn absennol gyda thâl. Mae'n bosib y bydd y llall, neu bartner y sawl sy'n mabwysiadu, hefyd yn gallu cael cyfnod o absenoldeb tadolaeth gyda thâl.

Mabwysiadu o dramor

Mae absenoldeb gyda thâl ar gael boed y plentyn yn cael ei fabwysiadu o'r tu mewn i'r DU neu o dramor, ond fe all rhai o'r manylion fod yn wahanol i rieni sy'n mabwysiadu o'r tu allan i'r DU.

I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os mai 'gweithiwr' ydych chi, fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cyfnod o absenoldeb ond fe allech fod yn gymwys i gael tâl. Os nad ydych chi'n siŵr ai 'gweithiwr' ynteu 'cyflogai' ydych chi, dilynwch y ddolen isod.

Cymorth personol

mae'n bosib cael help personol i gael gwybod beth ydych chi’n gymwys ar ei gyfer

Byddwch yn cael help personol i gael gwybod beth ydych chi'n gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).

Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb a'r tâl mabwysiadu y gallwch fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.

Cynlluniau cwmni

Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun ei hun ac fe allai hwnnw fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'r cynllun statudol.

Ble mae cael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU