Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yn ystod eich absenoldeb tadolaeth, a dychwelyd i’r gwaith

Ar wahân i'ch cyflog, bydd holl fuddiannau arferol eich cyflogaeth yn aros yr un fath yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth. Byddwch yn cael mynd yn ôl i'r un swydd ac ni ddylai'ch cyflogwr eich trin yn annheg na'ch diswyddo oherwydd eich bod yn dewis cymryd absenoldeb tadolaeth neu'n gofyn am gael gwneud hynny.

Beth sy'n digwydd i'ch hawl i wyliau adeg cyfnod o absenoldeb tadolaeth?

Byddwch chi'n dal i hel eich hawl i wyliau gyda thâl yn ystod absenoldeb tadolaeth. Ar hyn o bryd, hyd gwyliau blynyddol statudol yw 4.8 wythnos y flwyddyn, ond efallai y bydd eich contract yn cynnig mwy na hynny.

Chewch chi ddim cymryd gwyliau blynyddol yn ystod absenoldeb tadolaeth, ond efallai y gallwch ymestyn eich amser i ffwrdd drwy gymryd cyfnod o wyliau blynyddol yn union cyn neu ar ôl absenoldeb tadolaeth.

Beth sy'n digwydd i'ch cyfraniadau pensiwn yn ystod eich absenoldeb tadolaeth?

Os yw’ch cyflogwr yn cyfrannu tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol, yna rhaid iddynt barhau i wneud eu cyfraniadau arferol drwy gydol y cyfnod pan fyddwch ar absenoldeb tadolaeth gyda thâl. Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu tuag at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl tadolaeth yr ydych yn ei dderbyn.

Allaf i wneud yr un swydd pan fyddaf i’n dychwelyd?

Ar ddiwedd eich absenoldeb tadolaeth, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ag o’r blaen ar yr un telerau ag amodau a phe na baech wedi bod yn absennol, heblaw bod sefyllfa o ddiswyddo wedi codi. Dylai gweithiwr sydd ar absenoldeb tadolaeth gael ei drin yn yr un modd ag unrhyw weithiwr arall mewn sefyllfa o ddiswyddo, gan gynnwys ymgynghori â chi ynghylch y diswyddo a chael eich ystyried ar gyfer swyddi eraill.

Mae gennych hawl hefyd i elwa o unrhyw welliannau cyffredinol i’ch cyfradd gyflog neu delerau ac amodau eraill a gyflwynwyd tra roeddech yn absennol.

Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo neu’ch trin yn annheg o ganlyniad i gymryd absenoldeb tadolaeth neu geisio cymryd absenoldeb tadolaeth.

Os nad ydych chi’n dymuno dychwelyd i’r gwaith, dylech roi rhybudd yn unol â’ch cytundeb cyflogaeth. Nid oes rhaid i chi dalu Tâl Tadolaeth Statudol yn ôl, hyd yn oed os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith.

Cymryd absenoldeb rhiant yn dilyn absenoldeb tadolaeth

Os byddwch chi angen mwy o amser o’r gwaith i ofalu am eich plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant. Gallwch gymryd hyd at bedair wythnos o absenoldeb rhiant heb i hynny effeithio ar eich hawl i ddychwelyd. Os byddwch chi’n cymryd mwy na phedair wythnos, gallwch ddychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hynny'n rhesymol ac yn ymarferol bosib. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau a phetaech chi heb fod yn absennol.

Trefniadau gweithio hyblyg

Fel rhiant plentyn o dan chwech oed, mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os byddwch chi’n wynebu problemau tra’ch bod ar absenoldeb rhiant, mynnwch sgwrs â’ch pennaeth neu’r sawl sydd uwch eu pen, neu ewch at yr adran adnoddau dynol neu bersonél. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os byddwch chi'n dal i fod yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble mae cael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU