Mwy o wybodaeth am yr hawliau sy'n gysylltiedig ag absenoldeb mamolaeth - faint o absenoldeb y gallwch ei gymryd, beth sy'n digwydd i'ch swydd pan fyddwch yn mynd yn ôl, a beth i'w wneud os gwrthodir absenoldeb mamolaeth i chi.
Dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos pan ddisgwylir i'ch babi gyrraedd. Os nad oes modd gwneud hyn (ee am nad oeddech chi'n sylweddoli eich bod yn feichiog), dywedwch wrthyn nhw cyn gynted ag y bo modd. Rhaid i chi ddweud wrthynt:
Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi roi rhybudd ysgrifenedig. Mae'n bosib hefyd y byddan nhw'n gofyn am gopi o Ffurflen MAT B1, y dystysgrif mamolaeth, a gewch chi gan eich meddyg neu'ch bydwraig ar ôl i chi fod yn feichiog am 21 wythnos. Allan nhw ddim rhoi’r dystysgrif i chi ynghynt. Ar ôl i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn dymuno cael cyfnod o absenoldeb mamolaeth, dylent ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod, gan ddweud wrthych ar ba ddyddiad y bydd y cyfnod o absenoldeb yn dod i ben.
Pryd gewch chi ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb?
Cewch ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb unrhyw bryd o'r 11eg wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i'r babi gyrraedd, fe all eich cyflogwr eich gorfodi i ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb mamolaeth.
Oes rhaid i chi gymryd yr wythnosau i gyd?
Does dim rhaid i chi gymryd yr wythnosau i gyd, ond rhaid i chi gymryd pythefnos (neu bedair wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri) o 'absenoldeb mamolaeth gorfodol' ar ôl geni'ch babi.
Beth os byddwch chi'n colli'r babi?
Ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl amodau eraill, byddwch chi'n dal i gael cymryd y cyfnod o absenoldeb mamolaeth os yw eich plentyn yn:
Os cewch chi'ch trin yn annheg
Os cewch chi'ch trin yn llai ffafriol oherwydd eich bod yn feichiog neu oherwydd eich bod yn absennol dros gyfnod mamolaeth, mae'n bosib bod hynny'n enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw.
Dileu swyddi ac absenoldeb mamolaeth
Os bydd eich cyflogwr yn gwneud pobl yn ddi-waith, ni chaiff ddefnyddio beichiogrwydd fel rheswm dros eich dewis chi i'ch diswyddo yn hytrach na chyflogeion tebyg. Os bydd eich swydd yn cael ei dileu yn ystod eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth, rhaid iddyn nhw gynnig swydd arall addas i chi os oes un ar gael.
Eich telerau a'ch amodau yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth
Tra'ch bod ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth arferol, bydd gennych yr un hawliau a buddiannau cyflogaeth ag arfer (ar wahân i'ch cyflog). Gall hyn gynnwys unrhyw ddefnydd o gar cwmni neu ffôn symudol sydd gennych fel rhan o'ch contract. Os byddwch chi'n penderfynu cael cyfnod ychwanegol o absenoldeb mamolaeth, mae'n bosib y caiff rhai hawliau a buddiannau contractaidd (ee car cwmni) eu hatal, ond bydd eich hawliau statudol yn dal i fod mewn grym.
Fodd bynnag, os ydych chi’n disgwyl eich babi ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, bydd gennych yr un hawliau a buddiannau cyflogaeth ag arfer (ar wahân i'ch cyflog) drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth.
Beth sy'n digwydd i'ch cyfraniadau pensiwn adeg cyfnod o absenoldeb mamolaeth?
Os yw’ch cyflogwr yn cyfrannu tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol, rhaid iddynt barhau i wneud eu cyfraniadau arferol drwy gydol eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth arferol ac absenoldeb mamolaeth ychwanegol, neu am unrhyw amser y byddwch yn derbyn unrhyw Dâl Mamolaeth Statudol neu dâl mamolaeth contractaidd. Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu tuag at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl mamolaeth yr ydych yn ei dderbyn.
Beth sy'n digwydd i'ch hawl i wyliau adeg cyfnod o absenoldeb mamolaeth?
Byddwch chi'n dal i hel eich holl hawliau i wyliau gyda thâl yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth arferol. Fodd bynnag, oni bai bod eich contract yn dweud fel arall, dim ond yr hawl statudol sylfaenol (4.8 wythnos neu 24 diwrnod os ydych yn gweithio amser llawn) o wyliau y byddwch chi'n ei hel yn ystod y cyfnod o absenoldeb mamolaeth ychwanegol. Ond, os ydych chi’n disgwyl eich babi ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, byddwch chi’n dal i hel eich holl hawliau i gael gwyliau gyda thâl drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu at ddiwedd eich cyfnod o absenoldeb. Mae'n bosib na fyddwch chi'n cael trosglwyddo unrhyw wyliau y mae gennych hawl iddo ond sydd heb ei gymryd os bydd eich absenoldeb mamolaeth yn pontio dwy flwyddyn wyliau, felly, os yw hynny'n wir, mae'n aml yn well cymryd y gwyliau ar ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb.
Cadw mewn cysylltiad
Yn ystod eich absenoldeb, gall cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr fod yn fanteisiol. Mae gan eich cyflogwr hawl i gael cyswllt rhesymol gyda chi yn ystod eich absenoldeb mamolaeth. Gallai gysylltu â chi er mwyn trafod y trefniadau pan fyddwch yn dychwelyd i'ch gwaith er enghraifft, neu i roi'r newyddion diweddaraf i chi am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle ers i chi fod ar absenoldeb, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd am ddyrchafiad neu swyddi gwag.
Bydd eich absenoldeb a'ch tâl mamolaeth fel arfer yn dod i ben pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, mae gennych hawl i weithio am hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich absenoldeb mabwysiadu heb golli tâl mamolaeth statudol, neu lwfans mamolaeth os mai dyna ydych chi’n ei dderbyn, a heb i'ch absenoldeb ddod i ben.
Ni ellir gweithio yn ystod y 'dyddiau cadw mewn cysylltiad' hyn onid ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar hynny. Ni allwch weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth gorfodol h.y. y pythnefnos yn syth ar ôl genedigaeth eich plentyn. Er y gallant fod yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer pethau fel hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir defnyddio dyddiau cadw mewn cysylltiad ar gyfer unrhyw fath o waith, a dylent ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb. Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr pa waith sydd angen ei wneud ar ddyddiau cadw mewn cysylltiad a faint o dâl gewch chi.
Beichiogi eto yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth
Os byddwch chi'n beichiogi eto yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth, bydd gennych yr hawl i gyfnod arall o absenoldeb mamolaeth arferol ac absenoldeb mamolaeth ychwanegol.
Os ydych yn cael eich gwrthod eich hawliau, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd gweithiwr (ee swyddog undeb llafur) mae’n bosib byddant yn gallu eich helpu.
Os nad yw hyn yn gweithio, efallai bydd angen i chi wneud cwyn gan ddefnyddio proses gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os ydych dal yn anhapus, gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth
Am ragor o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ymwelwch â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod ynghylch undebau llafur.