Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Absenoldeb a thâl tadolaeth: golwg gyffredinol

Os ydych chi'n mynd i fod yn dad, neu os byddwch chi'n gyd-gyfrifol â'r fam am fagu'r plentyn, bydd gennych yr hawl i gael cyfnod o absenoldeb tadolaeth gyda thâl dim ond i chi fodloni rhai amodau.

Help rhyngweithiol

cael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth rhyngweithiol

Gallwch gael help personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).

Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb tadolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.

Nid yw absenoldeb tadolaeth yr un fath ag absenoldeb rhiant, sy'n absenoldeb heb dâl a ddefnyddir gan rieni sy'n gweithio i ofalu am blant dan bump oed, neu dan 18 oed os yw'r plentyn yn anabl.

Oes gennych chi'r hawl i gyfnod o absenoldeb tadolaeth gyda thâl?

I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl tadolaeth, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os mai 'gweithiwr' ydych chi, fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cyfnod o absenoldeb ond fe allech fod yn gymwys i gael tâl. Os nad ydych chi'n siŵr ai 'gweithiwr' ynteu 'cyflogai' ydych chi, darllenwch yr erthygl isod.

Fe gewch gymryd y cyfnod o absenoldeb tadolaeth statudol os ydych chi'n bodloni'r amodau hyn:

  • rydych yn gyflogai gyda chontract cyflogaeth
  • chi yw tad biolegol y plentyn neu ŵr neu bartner y fam (gan gynnwys perthynas o'r un rhyw), neu chi yw'r person sy'n mabwysiadu'r plentyn, neu bartner y person hwnnw
  • rydych wedi bod gyda'ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn dechrau'r wythnos pan ddisgwylir i'r babi gyrraedd; neu erbyn diwedd yr wythnos pan y cewch wybod eich bod wedi cael eich paru gyda phlentyn
  • byddwch chi'n cymryd rhan lawn wrth fagu'r plentyn ac yn absennol o'r gwaith er mwyn cefnogi'r fam neu ofalu am y babi

I fod yn gymwys ar gyfer tâl, mae'n ofynnol eich bod hefyd yn ennill o leiaf y terfyn enillion isaf ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych chi'n ennill llai na'r terfyn enillion isaf (£90 yr wythnos ar hyn o bryd), bydd gennych yr hawl i absenoldeb tadolaeth heb dâl os ydych chi'n bodloni amodau eraill, ac fe allech gael Cymhorthdal Incwm yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth.

Os nad ydych yn gyflogai, ond eich bod yn weithiwr asiantaeth, yn ddeilydd swydd neu'n is-gontractwr, ni fydd gennych hawl i gael absenoldeb tadolaeth fel arfer, ond efallai y byddwch yn gymwys i gael tâl os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyso eraill.

Beth os na fyddwch chi'n gymwys?

Os na fyddwch chi'n gymwys i gael cyfnod o absenoldeb tadolaeth, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn barod i roi rhywfaint o amser i chi o'r gwaith neu fe allech chi gymryd gwyliau gyda thâl.

Faint o gyfnod o absenoldeb tadolaeth gewch chi?

Cyn belled â'ch bod yn bodloni rhai amodau, cewch gymryd naill ai un wythnos neu ddwy wythnos. Chewch chi ddim cymryd diwrnodau yma ac acw, ac os byddwch chi'n dewis cymryd dwy wythnos, rhaid i chi eu cymryd gyda'i gilydd.

Cewch ddewis dechrau'r cyfnod o absenoldeb:

  • ar y diwrnod y caiff y babi ei eni
  • nifer o ddiwrnodau neu wythnosau ar ôl geni'r babi
  • o ddyddiad penodol ar ôl diwrnod cyntaf yr wythnos pan ddisgwylir i’r babi gael ei eni

Gall eich absenoldeb ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ond nid cyn i'r babi gael ei eni), ond rhaid iddo orffen o fewn 56 diwrnod ar ôl geni'r babi, neu, os genir y babi cyn yr wythnos y disgwylid iddo gyrraedd, o fewn 56 diwrnod i ddiwrnod cyntaf yr wythnos honno.

Os bydd eich partner yn feichiog gyda mwy nag un babi (gefeilliaid er enghraifft), dim ond un cyfnod o absenoldeb tadolaeth gewch chi.

Beth os byddwch chi'n colli'r babi?

Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r holl amodau eraill, cewch gymryd y cyfnod o absenoldeb tadolaeth os yw'r plentyn yn farw-anedig ar ôl 24 wythnos neu os yw’n cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y beichiogrwydd.

Faint o dâl tadolaeth allwch chi ei gael?

Os ydych chi'n ennill £90 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Tadolaeth Statudol, sef £117.18 (£123.06 o 5 Ebrill 2009) neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai, am un neu ddwy wythnos yn olynol.

Cynlluniau cwmni

Mae gan rai cyflogwyr eu trefniadau eu hunain ar gyfer absenoldeb tadolaeth - edrychwch ar eich contract cyflogaeth. Bydd dal gennych chi'r hawl i ddewis y trefniadau absenoldeb tadolaeth statudol os mai dyna sydd orau gennych.

Mae'r hawl i absenoldeb tadolaeth yn ychwanegol i'ch lwfans gwyliau arferol.

Amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

Nid oes gan dadau hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith er mwyn mynd gyda’u partner i apwyntiadau cynenedigol, gan nad yw’r hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl ond yn berthnasol i weithwyr beichiog. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau’n sylweddoli pwysigrwydd y cyfnod hwn ac yn gadael i’w gweithwyr gymryd amser o’r gwaith gyda thâl, neu wneud iawn am yr amser yn nes ymlaen.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os gwedir eich hawliau i chi, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os byddwch chi'n dal yn anhapus, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU