Os ydych chi'n fam ac yn gyflogai, mae gennych hawl statudol i nifer sylfaenol o wythnosau o absenoldeb mamolaeth. Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cynnig ei gynllun absenoldeb mamolaeth ei hun.
Ceir absenoldeb mabwysiadu Statudol am 52 wythnos. Gallech fod â hawl i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol am hyd at 39 wythnos o'r absenoldeb.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb mamolaeth, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os nad ydych yn sicr a ydych yn 'gyflogai' ai peidio, dilynwch y ddolen isod.
Byddwch yn cael help personol i gael gwybod beth allech chi fod yn gymwys i'w gael drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb mamolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun ei hun ac fe allai hwnnw fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'r cynllun statudol.
Fel 'cyflogai' bydd gennych yr hawl i gael 26 wythnos o 'Absenoldeb Mamolaeth Arferol' a 26 wythnos o 'Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol' - gan wneud cyfanswm o flwyddyn. Ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion hysbysu penodol, fe gewch gymryd y cyfnod hwn, dim ots ers faint rydych chi wedi bod gyda'ch cyflogwr, na faint o oriau rydych chi'n eu gweithio, na faint o gyflog gewch chi. Rydych chi’n parhau i fod yn gyflogai drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth arferol ac ychwanegol.
Rhieni benthyg
Os ydych chi a’ch gŵr, gwraig neu bartner yn cael plentyn drwy fenthyg croth, fyddwch chi fel arfer ddim yn gymwys i gael absenoldeb Mamolaeth neu Fabwysiadu Statudol. Fodd bynnag, unwaith y cewch chi orchymyn rhiant, byddwch yn gymwys i gael absenoldeb rhiant heb dâl.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cydberthynas Lafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon. Fe allwch chi gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.