Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sganiau a phrofion sgrinio

Drwy gydol eich beichiogrwydd byddwch chi'n cael cynnig sganiau a phrofion i weld sut mae'ch baban yn datblygu.

Sganiau uwchsain

Gyda sgan uwchsain caiff dyfais sganio â llaw ei rolio dros eich stumog. Mae hyn yn dangos delweddau o'r tu mewn i'ch croth ar sgrin. Gellir defnyddio'r rhain i:

  • ddweud beth yw maint ac oed eich baban
  • edrych ar safle'r baban a'r brych
  • edrych am broblemau ffisegol naill ai yn y baban neu'r brych
  • weld a ydych yn disgwyl mwy nag un baban

Efallai y cewch gynnig sgan pan fydd hi'n:

  • oddeutu wyth i 14 wythnos
  • oddeutu 18 i 20 wythnos

Profion sgrinio

Defnyddir y profion hyn er mwyn edrych am gyflyrau megis spina bifida a syndrom Down. Os byddwch chi'n cael cynnig prawf sgrinio, holwch eich bydwraig pam eich bod yn cael ei gynnig. Gellir profi pob menyw, beth bynnag y bo'i hoedran, am spina bifida a syndrom Down, fodd bynnag, mae mamau hŷn yn fwy tebygol o gael baban gyda syndrom Down.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU