Pan fyddwch yn darganfod eich bod yn feichiog, dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg yn syth. Cewch gynnig profion rheolaidd trwy gydol y cyfnod y byddwch yn feichiog. Mae pa mor aml y byddwch yn cael eich profi yn dibynnu ar nifer o bethau megis ai dyma'ch baban cyntaf neu a oes gennych anghenion iechyd arbenigol. Fodd bynnag, gallwch gysylltu â'ch bydwraig neu'ch meddyg os byddwch yn bryderus neu os bydd angen trafod rhywbeth arnoch.
Bydd yr archwiliadau, mwy na thebyg, yn cynnwys:
Yn ystod beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion gwaed a fydd yn darparu gwybodaeth i'ch cynorthwyo i roi genedigaeth i faban iach. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau am y profion a gynigir i chi, beth fyddan nhw'n ei ddweud neu ddim yn ei ddweud wrthych a pha benderfyniadau pellach y gallech orfod eu cymryd yn dibynnu ar y canlyniadau. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch bydwraig neu feddyg a chymerwch eich amser i ystyried eich opsiynau.
Gallai profion gynnwys: