Y cyngor gorau yw osgoi yfed alcohol pan fyddwch yn feichiog neu'n ceisio beichiogi. Os byddwch yn penderfynu yfed, yna gwnewch yn siŵr nad ydych yn yfed mwy na dwy uned, dim ond unwaith neu ddwy yr wythnos, a pheidiwch â meddwi. Os byddwch yn cadw at hyn, yn ôl tystiolaeth, mae'n annhebygol iawn y byddwch yn niweidio'ch babi.
Os ydych yn ceisio beichiogi, mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol bod faint yr ydych yn ei yfed yn gallu gostwng eich lefelau ffrwythlondeb yn ogystal â'ch gallu i feichiogi. Gall yfed yn ormodol, a meddwi yn enwedig, arwain at golli'r babi hyd yn oed yn ystod dyddiau cynnar eich beichiogrwydd. Y peth mwyaf diogel i'w wneud yw peidio ag yfed o gwbl, neu o leiaf yfed tipyn llai o alcohol nag yr ydych yn ei yfed ar hyn o bryd. Os ydych yn ceisio beichiogi, peidiwch ag yfed mwy nag uned neu ddwy unwaith neu ddwy yr wythnos, a pheidiwch â meddwi.
Yn y DU mae un uned yn cynnwys wyth gram o alcohol pur, a chryfder a maint diod sy'n pennu faint o unedau sydd ynddo. Nid yw mor syml ag un diod, un uned. I gael gwybod mwy, ewch i wefan Drinkaware.
Cynghorir yn gryf i fenywod beidio ag yfed alcohol yn ystod tri mis cyntaf eu beichiogrwydd oherwydd efallai y bydd mwy o risg o golli'r babi.
Pan fydd menyw feichiog yn yfed alcohol, mae'r alcohol yn pasio drwy'r brych ac yn gallu effeithio ar ddatblygiad y babi. Mae hyn yn digwydd drwy gydol y beichiogrwydd, nid yn ystod yr wythnosau cyntaf yn unig.
Gall goryfed arwain at y canlynol:
Bydd alcohol yn cael ei basio i'r babi fesul tipyn drwy gyfrwng llaeth o'r fron. Bydd arogl gwahanol ar y llaeth ac fe allai hyn effeithio ar y modd y mae'r babi'n bwydo, yn cysgu neu'n treulio bwyd. Y cyngor gorau yw osgoi yfed ychydig cyn bwydo'r babi. Pan fydd menywod yn bwydo ar y fron, y terfyn alcohol dyddiol yw rhwng dwy a thair uned. Mae'r terfyn yn berthnasol p'un a ydych yn yfed bob dydd, unwaith neu ddwy yr wythnos, neu o bryd i'w gilydd.
Os hoffech gael rhagor o gymorth neu fwy o wybodaeth am alcohol, gallwch holi eich meddyg teulu, neu gysylltu ag unrhyw un o'r mudiadau canlynol:
Bydd ysmygu pan fyddwch yn feichiog nid yn unig yn niweidio'ch iechyd chi, ond gall hefyd niweidio'ch babi. Mae wedi cael ei gysylltu ag amrywiaeth o broblemau iechyd, gan gynnwys:
Os rhowch chi'r gorau i ysmygu tra byddwch yn feichiog, fe gewch chi lai o salwch bore a llai o gymhlethdodau.
Os ydych chi'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu, ceisiwch annog y bobl o'ch cwmpas i wneud yr un fath. Mae mwg ail-law yn cynnwys nwyon gwenwynig, tar a chemegau gwenwynig sy'n niweidiol i chi ac i iechyd eich babi.
Dim ond chi all benderfynu rhoi'r gorau i ysmygu, ond gallwch gael cymorth a chefnogaeth i ddal ati i beidio ag ysmygu.
Mae Llinell Gymorth rad ac am ddim y GIG ar Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd, 0800 169 9 169, yn wasanaeth cymorth cyfrinachol. Fe fydd person wedi ei hyfforddi'n arbennig yn ateb eich galwad ac yn gwrando ar eich anghenion, yn awgrymu gwahanol ddulliau o roi'r gorau i ysmygu, ac yn gallu anfon pecyn gwybodaeth rhad ac am ddim atoch.
Mae Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG ar gael yn eich ardal. Mae cymorth arbennig ar gael i famau beichiog a'u partneriaid sy'n ei chael yn anodd rhoi'r gorau iddi. Er mwyn dod o hyd i'ch gwasanaeth lleol, ffoniwch Linell Gymorth y GIG ar Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd ar 0800 169 9 169.