Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sganiau, profion sgrinio ac apwyntiadau

Ar ôl i chi ddarganfod eich bod yn feichiog, mae'n bwysig cael cyngor am iechyd i helpu i sicrhau bod eich beichiogrwydd mor ddiogel a chyfforddus â phosibl. Fel arfer, caiff profion, sganiau ac apwyntiadau rheolaidd eu cynnal neu eu trefnu gan eich bydwraig neu'ch meddyg, a byddant yn parhau drwy gydol y beichiogrwydd.

Profion archwilio rheolaidd

Bydd yr archwiliadau, mwy na thebyg, yn cynnwys:

  • cymryd eich pwysau gwaed
  • eich pwyso
  • astudio'ch wrin am heintiau a phroblemau siwgr gwaed
  • edrych ar eich lles cyffredinol

Yna, yn ddiweddarach yn ystod y beichiogrwydd:

  • teimlo'ch bol (er mwyn gweld beth yw maint a safle eich baban)
  • gwrando ar guriad calon eich baban

Profion gwaed

Yn ystod beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion gwaed a fydd yn darparu gwybodaeth i'ch cynorthwyo i roi genedigaeth i fabi iach. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau am y profion a gynigir i chi, beth fyddan nhw'n ei ddweud neu ddim yn ei ddweud wrthych a pha benderfyniadau pellach y gallech orfod eu gwneud yn dibynnu ar y canlyniadau. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch bydwraig neu feddyg a chymerwch eich amser i ystyried eich opsiynau.

Efallai y bydd angen canfod beth yw eich grŵp gwaed a'ch math gwaed er mwyn ei brofi am y canlynol:

  • anaemia
  • hepatitis B
  • HIV
  • cyflyrau megis syffilis, neu glefyd cryman-gell
  • imiwnedd i rwbela (y frech Almaenig)

Profion sgrinio

Defnyddir y profion hyn er mwyn chwilio am broblemau gyda'ch babi megis spina bifida a syndrom Down. Os byddwch chi'n cael cynnig prawf sgrinio, holwch eich bydwraig pam eich bod yn cael ei gynnig. Gellir cynnig y profion am spina bifida a syndrom Down i bob menyw, beth bynnag y bo'i hoedran; fodd bynnag, mae mamau hŷn yn fwy tebygol o gael babi gyda syndrom Down. Yn 35 oed, mae'r tebygolrwydd o gael babi gyda syndrom Down yn 1 mewn 270. Yn 40 oed, mae'r tebygolrwydd yn 1 mewn 100.

Gyda rhai profion, megis amniosentesis, ceir perygl bach o golli'r babi felly gofynnwch am y risgiau posibl cyn cytuno i gael prawf.

Sganiau uwchsain

Gyda sgan uwchsain caiff dyfais sganio â llaw ei rolio dros eich stumog. Mae hyn yn dangos delweddau o'r tu mewn i'ch croth ar sgrin. Gellir defnyddio'r rhain i:

  • ddweud beth yw maint ac oed eich baban
  • edrych am broblemau ffisegol naill ai yn y babi neu'r brych
  • weld a ydych yn disgwyl mwy nag un baban
  • edrych ar safle'r babi a'r brych

Efallai y cewch gynnig sgan pan fydd hi'n:

  • oddeutu 10 i 14 wythnos
  • oddeutu 20 i 22 wythnos

Additional links

Gwybod Faint i'w Yfed

Gallwch gael gwybod sawl uned o alcohol sydd yn eich hoff ddiod, sut i fwynhau yfed yn gyfrifol a mwy

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU