Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Marw-enedigaeth

Mae cymorth ar gael i rieni sydd wedi cael plentyn marw-anedig.

Pan fydd plentyn eisoes yn farw pan enir ef, gelwir hyn yn farw-enedigaeth. Mae'r rhesymau dros farw-enedigaeth yn ddyrys ac ni ellir eu deall bob amser. Bydd yr oriau a'r dyddiau ar ôl marwolaeth baban yn eich gadael yn syfrdan ac wedi'ch llorio. Mae penderfyniadau y gallwch eu gwneud ynghylch eich baban ar eich pen eich hunain y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai penderfyniadau y bydd rhaid i chi eu gwneud a rhai pethau na fydd gennych ddewis ond eu gwneud. Enghraifft o hyn yw cofrestru marw-enedigaeth eich baban. Bydd cynghorwyr profedigaeth yn yr ysbyty yn rhoi arweiniad i chi ynglŷn â beth i'w wneud nesaf.

Mae gan SANDS (Cymdeithas Marw-enedigaeth a Marwolaeth Cyn Geni) linell gymorth: 020 7436 5881 rhwng 10 am a 5 pm, sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i rieni sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

Cofrestru marw-enedigaeth

Gallwch lenwi eich manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod lleol, ble gallwch gael gwybod mwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU