Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Camesgor (colli baban)

Mae Camesgor yn fwy debygol o ddigwydd o fewn yr 13 wythnos o feichiogrwydd. Os ydych yn dechrau gwaedu'n drwm, dylech gysylltu gyda'ch meddyg yn syth. Y symptomau eraill yw poenau yn y bol a chefn.

Mae camesgor yn eitha cyffredin yn ystod y tri mis cyntaf o feichiogrwydd ac mae'n debyg fod un ym mhob chwe beichiogrwydd sy'n cael ei gydnabod yn glinigol yn diweddu fel hyn. Gall camesgor buan fod yn debyg i fisglwyf. Efallai y bydd gwaedu a phoen yn y stumog. Gyda chamesgor sy'n digwydd yn hwyrach ymlaen, mae'n debyg y bydd gwaedu ynghŷd â phoenau sy'n teimlo'n debycach i boenau esgor.

Beth i'w wneud

Os byddwch yn sylweddoli eich bod yn gwaedu neu'n dechrau cael poenau, cysylltwch â'r person sy'n rhoi gofal cyn geni ichi - eich bydwraig, eich meddyg teulu neu'ch ysbyty fel arfer. Weithiau bydd y gwaedu'n stopio ar ei ben ei hun ac fe fyddwch chi a'ch baban yn iawn. Weithiau bydd camesgor yn digwydd ac ni fydd dim y gall unrhyw un ei wneud i'w atal. Byddwch wedyn yn cael 'D and C' (ymlediad a chiwretiad) lle bydd y baban yn cael ei symud o'r corff trwy geg y groth.

Cofiwch nad oes neb ar fai pan fydd camesgor yn digwydd a hyd yn oed os cewch sawl camesgoriad gallwch fynd yn eich blaen i gael plant iach. Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu os oes gennych bryderon. Mae gan Y Gymdeithas Camesgor linell gymorth (01924 200 799) sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 4.00pm.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU