Marwolaethau yn y crud neu SIDS (Sudden Infant Death Syndrome) yw pan fo plentyn (fel arfer o dan flwydd oed) yn marw yn ei gwsg. Nid oes rheswm meddygol dros pam y digwydd hyn ond mae sawl peth y gallwch ei wneud i leihau'r risg o farwolaeth yn y crud:
Rhowch eich babi i gysgu ar ei gefn - nid yw cysgu ar yr ochr mor ddiogel â chysgu ar y cefn, ac nid yw babanod iach sy'n cysgu ar eu cefnau mewn mwy o berygl o dagu. Hefyd, peidiwch â gadael i'ch babi fynd yn rhy boeth (nac yn rhy oer). Y tymheredd delfrydol i lofft babi yw 18 gradd Celsius.
Mae'n naturiol i fabanod tua phum neu chwe mis oed rowlio yn ystod y nos felly peidiwch â cheisio eu rhwystro rhag gwneud hynny, ond dylech gofio rhoi'r babi i gysgu ar ei gefn.
Rhowch eich babi i orwedd gyda'i draed tuag at droed y crud neu'r pram, er mwyn ei atal rhag troi a throsi i lawr o dan y blancedi, a threfnwch y blancedi fel nad ydynt yn cyrraedd yn uwch na'i ysgwyddau. Dylid rhoi ymylon y blancedi lawr ochr y fatres fel na allant fynd dros ben y babi. Mae gan fabanod sy'n cael eu gorchuddio gan eu dillad gwely'n ddamweiniol fwy o siawns o farw yn y crud.
Rhowch eich babi i gysgu ar fatres sy'n gadarn, yn wastad, yn ffitio'n dda ac sy'n lân. Dylai'r tu allan i'r fatres fedru gwrthsefyll dŵr, megis PVC. Gorchuddiwch y fatres gydag un gynfas. Defnyddiwch gynfasau a blancedi ysgafn ond dim duvets, cwrlidau, nythod babanod, lletemau, dillad gwely na chlustogau.
Mae'n well cadw cot eich babi yn eich ystafell chi am y chwe mis cyntaf. Er mor hyfryd yw cael eich babi gyda chi am fwythau neu i gael bwyd, rhowch eich baban yn ôl yn ei got cyn i chi fynd i gysgu. Y rheswm am hyn yw y ceir cysylltiad rhwng rhannu gwely, soffa neu gadair freichiau i gysgu a marwolaeth yn y crud. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi neu'ch partner:
Neu:
Mae risg hefyd y gallwch rowlio yn eich cwsg a mygu eich babi, neu y gallai eich baban rowlio ar y llawr o wely oedolyn a chael anaf.
Nid yw teclynnau monitro babanod yn atal marwolaeth yn y crud ond maent yn tawelu meddwl rhai rhieni.
Cofiwch fod marwolaethau yn y crud yn rhywbeth anghyffredin iawn, felly peidiwch â phoeni gormod - mae'n bwysig eich bod yn mwynhau misoedd cyntaf y babi.