Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bwydo ar y fron a bwydo â photel

Mae llaeth y fron yn rhoi'r holl faeth y mae ei angen ar eich babi ar gyfer datblygiad iach yng nghyfnod cynnar ei fywyd, a hefyd yn rhoi manteision iechyd tymor byr a thymor hir i'ch babi. Ond nid dyma'r unig ffordd o fwydo eich babi, ac efallai y byddai'n well gennych fwydo â photel.

Manteision bwydo ar y fron i fabanod

Mae bwydo ar y fron yn well i'ch babi am y rhesymau canlynol:

  • mae llaeth y fron yn naturiol - mae'n fwyd sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer eich babi
  • mae llaeth y fron yn newid wrth i'ch babi dyfu felly bydd yn cael yr union bethau y mae eu hangen arno
  • mae bwydo ar y fron yn helpu i amddiffyn eich babi rhag afiechydon oherwydd caiff gwrthgorffynnau eu trosglwyddo i'r llaeth
  • argymhellir bwydo ar y fron am y chwe mis cyntaf o fywyd y babi oherwydd ei fod yn rhoi'r holl faeth y mae ei angen ar y babi
  • mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron bum gwaith yn llai tebygol o fynd i'r ysbyty gyda heintiau megis gastroenteritis a heintiadau anadlol
  • bydd yn helpu i rwystro eich babi rhag bod yn rhwym
  • mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o gael alergeddau megis ecsema
  • mae llaeth y fron yn cynnwys hormonau a ffactorau twf sy'n helpu eich babi i ddatblygu
  • mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o fod yn ordew pan fyddant yn hŷn

Manteision bwydo ar y fron i famau

Mae bwydo ar y fron yn well i famau am y rhesymau canlynol:

  • mae am ddim
  • nid oes angen sterileiddio poteli, paratoi bwyd na gwneud i'ch babi aros
  • gallwch ei wneud unrhyw bryd, unrhyw le
  • mae'n llawer haws na bwydo â photel yng nghanol y nos
  • bydd eich croth yn dychwelyd i'w maint arferol yn gynt
  • byddwch yn defnyddio mwy o galorïau
  • mae bwydo ar y fron yn lleihau'r risg o ganser y fron mewn menywod ar ddiwedd y mislif

Os oes gennych broblemau gyda bwydo ar y fron

Mae bwydo ar y fron yn sgìl, ac mae'n rhaid ymarfer pob sgìl newydd. Os ydych chi'n dymuno bwydo ar y fron ond yn ei chael yn anodd, gallwch ofyn i'ch bydwraig am gyngor neu ewch i weld cwnselydd bwydo ar y fron. Fel arall, mae gan wefan bwydo ar y fron NHS Choices awgrymiadau ar sut i fwydo ar y fron a rhestr o linellau cymorth.

Bwydo â photel

Gall bwydo â photel ymddangos yn waith caled ar brydiau, ond unwaith y dewch i drefn byddwch yn gallu ymlacio a mwynhau bwydo.

Un fantais o fwydo â photel yw y gall tadau a gofalwyr fwydo eich babi gan roi tipyn o lonydd i chi. Gallwch ddefnyddio fformiwla neu roi llaeth o'r fron mewn potel i'ch babi. Gallech hefyd ddefnyddio cyfuniad o laeth o'r fron wedi'i botelu a fformiwla. Byddai'r holl ddewisiadau hyn yn rhoi'r maeth y mae ei angen ar eich babi.

Cofiwch:

  • sicrhewch fod eich holl gyfarpar wedi'u sterileiddio - gallwch wneud eich babi'n sâl os yw'r botel yn fudur
  • dilynwch y cyfarwyddiadau ar becyn y fformiwla - peidiwch â chael eich temtio i roi llai neu fwy o fformiwla na'r hyn a argymhellir
  • profwch dymheredd y llaeth bob amser a pheidiwch â'i gynhesu yn y meicrodon - gallech losgi ceg eich babi

Fformiwla soia, fformiwla llaeth babi am ddim

Dim ond i fabanod sydd ag alergedd i laeth buwch, a dim ond gyda chyngor eich meddyg y dylid rhoi fformiwla soia i fabanod. Mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael fformiwla llaeth babi am ddim dan y cynllun Cychwyn Iach

Allweddumynediad llywodraeth y DU