Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Llaeth, ffrwythau, llysiau, llaeth fformiwla a fitaminau am ddim

Efallai fod gennych hawl i gael llaeth, ffrwythau a llysiau ffres, llaeth fformiwla a fitaminau am ddim dan y cynllun Cychwyn Iach.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Cychwyn Iach?

Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn feichiog a/neu fod gennych o leiaf un plentyn dan bedair oed a bod eich teulu yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith, oni bai fod eich teulu yn cael Credyd Treth Gwaith di-dor yn unig) gydag incwm teulu blynyddol o £15,575 neu lai (ar gyfer 2008/2009)

neu

  • os ydych yn feichiog a chithau dan 18 mlwydd oed

Noder, os gwelwch yn dda - Credyd Treth Gwaith di-dor yw'r Credyd Treth Gwaith a gewch yn ystod y pedair wythnos yn union wedi i chi roi'r gorau i weithio am 16 awr neu fwy yr wythnos

Beth fyddwch chi'n ei gael?

Mae'n bosib y cewch chi docynnau gwerth £3.00 yr un y gellir eu gwario ar laeth, ffrwythau a llysiau ffres neu laeth fformiwla.

Bydd menywod beichiog a phlant dros flwydd oed a than bedair oed yn cael un tocyn yr wythnos. Bydd plant dan flwydd oed yn cael dau docyn yr wythnos.

Gallwch hefyd gael fitaminau atodol am ddim. Gellir eu cael fel arfer o ganolfannau iechyd a chlinigau'r GIG ond bydd eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd hefyd yn gallu eich cynghori ynghylch trefniadau lleol.

Sut i hawlio tocynnau Cychwyn Iach

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais a gofyn i'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu feddyg neu nyrs cofrestredig ei llofnodi.

Gallwch ofyn am ffurflen gais Cychwyn Iach drwy ffonio 08701 555 455 a nodi cyfeirnod HS01.

Neu gallwch lenwi ffurflen gais neu lwytho copi oddi ar wefan Cychwyn Iach.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

I gael cyngor am gadw'n iach yn ystod eich beichiogrwydd, ffoniwch NHS Direct (Cymru a Lloegr) ar 0845 4647 neu NHS 24 (Yr Alban) ar 08454 24 24 24.

Allweddumynediad llywodraeth y DU