Fel arfer, mae babanod yn barod i flasu a theimlo gwahanol fwydydd, felly, yn ystod y cyfnod hwn, gallwch roi amrywiaeth eang o'r bwyd y bydd eich teulu'n ei fwyta i'ch babi. Ond cofiwch beidio ag ychwanegu halen at y bwyd pan fyddwch yn coginio.
Ar ôl naw mis gallwch ddechrau cynnig y bwydydd canlynol i'ch plentyn:
Os byddwch yn rhoi cynnyrch llaeth iddynt, gwnewch yn siŵr eu bod yn cynnwys llaeth braster llawn. Mae'n ddoeth i oedolion fwyta bwydydd sy'n isel mewn braster, ond nid yw hyn yn wir am fabanod gan fod arnynt angen mwy o egni i dyfu. Hefyd, peidiwch ag annog eich babi i gael dant melys drwy roi bisgedi a theisennau iddo (bydd y rhain yn gwneud i'ch babi deimlo'n llawn heb roi maeth iddo).
Dylai eich babi fod yn cael deiet amrywiol da erbyn hyn ac yn mwynhau tri neu bedwar pryd bwyd y dydd. Dylai eu deiet gynnwys:
Dyma amser da i gyflwyno prydau bwyd dau gwrs. Yn ddelfrydol, byddai pryd dau gwrs yn cynnwys:
Fe welwch y bydd eisiau llai o laeth ar eich babi pan fydd yn bwyta mwy o fwyd solid. Pan fydd eich babi'n bwyta digon o fwyd solid sawl gwaith y dydd efallai y gallwch hepgor llaeth o'i ddeiet unwaith y dydd, ond dylech barhau i fwydo ar y fron neu roi 500 - 600 ml (tua pheint) o laeth fformiwla i'ch babi bob dydd nes bydd yn 12 mis oed o leiaf. Bydd bwydo ar y fron yn parhau i fod o fudd i chi ac i'ch babi.
Wrth i chi gyflwyno diodydd (er enghraifft, dŵr gyda'ch prydau), dylech bob amser ddefnyddio cwpanau yn hytrach na photeli. Dylech osgoi defnyddio unrhyw beth â theth - os bydd eich plentyn yn treulio gormod o amser gyda theth yn ei geg fe allai niweidio ei ddannedd ac amharu ar leferydd eich plentyn wrth iddo ddatblygu. Yn ystod y cam hwn, nid oes rhaid berwi dŵr, oni bai eich bod yn ei ddefnyddio i wneud llaeth fformiwla. Gellir defnyddio sudd ffrwythau hefyd os yw'n ddigon gwan (un rhan yn sudd a 10 rhan yn ddŵr).
Cofiwch na ddylid rhoi llaeth buwch yn ddiod i'ch babi nes ei fod yn flwydd oed, ond gellir defnyddio'r llaeth gyda grawnfwyd neu ei gymysgu â thatws stwnsh.
Mae angen i fabanod gael haearn yn eu deiet i helpu i'w hymennydd ddatblygu'n iawn. Mae porc, cig eidion a chig oen yn ffynonellau gwych o haearn, a bydd eu gweini gyda llysiau'n helpu eich babi i amsugno'r haearn i'w gorff. Os ydych chi wedi penderfynu nad ydych am i'ch babi fwyta cig neu bysgod, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi corbys wedi'u hollti (lentils coch, pys wedi'u hollti, ffacbys) neu tofu iddynt. Mae ffrwythau hefyd yn helpu'r corff i amsugno haearn felly dylech gynnwys ffrwythau gyda phrydau bwyd hefyd.
Mae angen i blant dan bump oed sy'n bwydo ar y fron gael diferion fitamin A, C a D (nid oes angen y rhain ar blant sy'n yfed 500ml o laeth fformiwla bob dydd gan fod y fitaminau eisoes wedi'u cynnwys).
Os yw'ch teulu'n gymwys ar gyfer Cychwyn Iach, gallwch gael llaeth, ffrwythau a llysiau ffres, llaeth fformiwla a fitaminau am ddim nes bydd eich plentyn yn bedair oed.