Mae iselder ar ôl geni (PND) yn gyffredin iawn ymysg rhieni newydd ac fe all effeithio ar hyd at un ym mhob chwech o famau newydd. Er ei fod yn beth anghyffredin, gall tadau hefyd ddioddef o PND.
Gellir datblygu symptomau hyd at ddwy flynedd wedi'r enedigaeth; gall y rhain gynnwys:
Symptom arall mewn mamau sy'n dioddef o PND yw meddwl am wneud niwed i'ch babi. Mae hyn yn gyffredin dros ben, gan ddigwydd mewn tua hanner o'r holl achosion. Efallai y byddwch hefyd yn meddwl am eich niweidio'ch hun.
Os ydych chi'n credu bod gennych y rhain neu unrhyw symptomau eraill o PND, mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg yn syth. Mae cael triniaeth a gwella eto'n bwysig i chi, i'ch babi ac i'ch partner.
Efallai y bydd eich meddyg yn rhoi prawf gwaed i chi, rhag ofn bod rheswm arall dros eich symptomau, megis chwarren thyroid nad yw'n ddigon gweithgar, neu anaemia. Efallai y bydd yn gofyn deg cwestiwn syml i chi hefyd, sydd wedi'u llunio i gadarnhau eich bod yn dioddef o'r cyflwr.
Mae rhai meddygon yn defnyddio'r cwestiynau hyn, sef 'Graddfa Iselder Ôl-enedigol Caeredin', yn ystod beichiogrwydd i weld a yw'r fam yn debygol o gael PND ar ôl y geni.
Mewn rhai achosion, bydd meddygon yn rhoi cyffuriau gwrth-iselder er mwyn trin PND. Tabledi yw cyffuriau gwrth-iselder sy'n cydbwyso'r cemegion hynny yn eich ymennydd sy'n newid tymer, gan gael gwared ar deimladau isel. Bydd cwrs o gyffuriau gwrth-iselder yn para fel arfer am oddeutu pedwar i chwe mis, ond os yw'ch cyflwr yn dechrau gwella efallai y bydd y cyfnod hwn yn cael ei leihau.
Ar ei ffurf mwyaf difrifol, adnabyddir PND fel seicosis ôl-enedigol. Yn yr achosion hyn, ceir symptomau gwahanol - yn ogystal â meddwl am ladd ei hun, gallai'r dioddefwr gael rhithweledigaethau, ymddwyn yn afresymol a chredu pethau sydd ddim yn wir.
Efallai y bydd angen triniaeth wahanol hefyd. Mewn nifer o achosion, bydd cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio, ond nid dyna'r achos i bawb. Efallai y rhoddir tawelyddion yn lle hynny, ond dim ond am gyfnod byr.
Y cam cyntaf tuag at wella yw cydnabod bod gennych broblem a mynd at y meddyg. Yr ail gam yw trafod pethau gyda'ch teulu a'ch ffrindiau, a allai helpu i rannu'r baich. Peidiwch â chadw popeth sy'n eich poeni i chi'ch hun - siaradwch â'r rheini sydd agosaf atoch. Fe synnwch wrth weld faint y gall hyn eich helpu i wella.
Gall siarad â rhywun proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y maes fod yn driniaeth hynod o ddefnyddiol i wella PND hefyd. Trafodwch eich dewisiadau gyda'ch meddyg. Efallai y byddan nhw'n awgrymu eich bod yn mynd i weld gweithiwr cymdeithasol, neu'n ymuno â grŵp hunangymorth. Gallant hefyd eich cyfeirio at seicolegydd neu arbenigwr arall ar iechyd meddwl.
Mae gan y Gymdeithas Salwch Ôl-Enedigol linell gymorth ar 020 7386 0868 - dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10.00 am a 2.00 pm, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10.00 am a 5.00 pm.
Mae'r Gymdeithas Salwch Ôl-Enedigol yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i ferched yr effeithir arnynt gan iselder ôl-enedigol. Ceir rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n cynnig cefnogaeth dros y ffôn, dros e-bost, neu drwy'r post i famau sy'n dioddef o iselder. Mae taflenni ar gael hefyd.