Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfyngu amser gwylio'r teledu

Ceir peth tystiolaeth sy'n awgrymu bod gwylio gormod o deledu neu chwarae gormod o gemau cyfrifiadur yn gallu lleihau rhychwant sylw plant, neu gyfrannu at ordewdra ymhlith plant.

Beth sydd gan yr arbenigwyr i’w ddweud?

Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol adolygiad o'r holl dystiolaeth a ddengys mai treulio gormod o amser o flaen y teledu, yn fwy na thebyg, yw un o'r ffactorau sy'n golygu y bydd plentyn yn bwydo mwy o egni i'r corff nag y mae'n ei ddefnyddio, ac o ganlyniad yn mynd dros ei bwysau neu'n ordew. O ganlyniad, mae'r sefydliad yn awgrymu y dylai rhieni a gofalwyr wneud y canlynol:

  • monitro faint o amser y mae plant yn ei dreulio'n gwylio'r teledu
  • lleihau segurdod – argymhellir na ddylai plant eistedd am gyfnodau hir (mwy na dwy awr) yn gwylio'r teledu neu'n chwarae gemau cyfrifiadur
  • lleihau segurdod plant yn raddol a dod o hyd i ddiddordebau mwy bywiog a chorfforol megis chwaraeon, dawnsio neu gerdded

Gwylio'r teledu'n gymedrol

Nid oes amheuaeth nad yw'r teledu'n gallu bod yn gyfrwng addysgu defnyddiol. Gall helpu plant i ddysgu cyfathrebu a gall hefyd danio'u dychymyg, felly ychydig yn eithafol fyddai rhwystro'ch plentyn rhag gwylio'r teledu'n gyfan gwbl. Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i gadw'r cyfnod y mae'ch plentyn yn ei dreulio o flaen y teledu yn rhesymol. Efallai yr hoffech roi cynnig ar rai o'r pethau canlynol:

  • peidiwch â chadw setiau teledu yn yr ystafelloedd gwely
  • gwyliwch y teledu gyda'ch gilydd a threfnwch yr amser gwylio o amgylch rhaglenni penodol – ceisiwch ei wneud yn ddigwyddiad i'r teulu (bydd hyn hefyd yn eich helpu i gadw llygad ar ba raglenni y maent yn eu gwylio)
  • diffoddwch y teledu yn ystod prydau bwyd, a phan nad oes rhaglen arbennig i'w gwylio
  • ceisiwch gyflwyno rhywbeth i dynnu eu sylw, fel danteithion arbennig neu weithgaredd yn llawn hwyl
  • ceisiwch sicrhau bod eich plentyn yn gwybod yn ifanc pryd a sut y dylid defnyddio'r teledu
  • gosodwch esiampl dda drwy gyfyngu'ch amser gwylio eich hun

Os bydd popeth arall yn methu, a'ch bod yn dal i boeni ynghylch yr amser y mae eich plentyn yn ei dreulio'n gwylio'r teledu, mae pethau ar gael ar y farchnad sy'n gallu rhwystro plant rhag gwylio rhaglenni penodol, a chyfyngu nifer yr oriau y gall y teledu fod ymlaen. Holwch yn eich siop nwyddau trydannol leol neu chwiliwch ar y we i gael gwybod mwy.

Gemau cyfrifiadur a'r rhyngrwyd

Mae'r rhyngrwyd hefyd yn gyfrwng addysgu gwerthfawr ond mae'n syniad da cyfyngu nifer yr oriau y mae'ch plentyn yn eu treulio arno. Mae'r un peth yn wir am gonsolau gemau. Mae'n bosib bod eistedd o flaen sgrin, boed yn gyfrifiadur neu'n deledu, yn risg i'r iechyd. Ceisiwch annog eich plentyn i chwarae y tu allan a chyfathrebu gyda phlant eraill.

Pa mor egnïol ddylai plant fod?

Bydd cadw plant yn egnïol o fudd iddynt mewn sawl ffordd, gan gynnwys eu helpu i dyfu a datblygu'n iach, hybu eu lefelau egni a'u lles seicolegol, a'u galluogi i ryngweithio'n gymdeithasol.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylai plant a phobl ifanc wneud gweithgareddau egnïol am o leiaf awr bob dydd.

Additional links

Gofal plant sy’n fforddiadwy

Cymorth i rieni a gofalwyr i ddod o hyd i wasanaethau fforddiadwy a hygyrch yn eu hardal

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU