Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael ysgariad

Bydd cael ysgariad yn cychwyn gyda ffurflen a elwir yn 'ddeiseb ysgaru'.

Unwaith y byddwch wedi llenwi deiseb - gallwch ei chael gan dwrnai, o rai siopau nwyddau sy'n cyflenwi dogfennau cyfreithiol, neu wefan Gwasanaeth Llysoedd EM - ewch â hi i lys sirol ysgariad neu i'r Brif Gofrestrfa Adran Deulu yn Llundain.

Ar y ffurflen byddwch yn gorfod egluro pam eich bod eisiau ysgariad. Ni chewch ddechrau achos ysgariad oni fyddwch wedi bod yn briod am flwyddyn.

Rhesymau dros gael ysgariad

Ni fydd y llys yn caniatáu i chi gael ysgariad oni fydd y barnwr yn cytuno bod eich priodas wedi dod i ben. Y term cyfreithiol am hyn yw 'chwalu heb obaith o'i hadfer'.
Bydd rhaid i chi fodloni'r i'r llys fod un neu ragor o'r canlynol yn wir fel tystiolaeth bod eich priodas ar ben:

  • mae'r gŵr neu'r wraig wedi godinebu
  • cafwyd ymddygiad afresymol gan y gŵr neu'r wraig
  • bu enciliad am gyfnod o ddwy flynedd a mwy
  • rydych wedi gwahanu ers dwy flynedd, os yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch yr ysgariad
  • rydych wedi gwahanu ers pum mlynedd, os nad yw'r ddau ohonoch yn gytun ynghylch yr ysgariad

Y prif gyfnodau wrth ysgaru

Unwaith y dychwelwch eich deiseb at y llys sirol ysgariad byddwch wedi cychwyn ar y broses ysgaru. O hyn ymlaen, chi yw'r 'deisebydd' yn ôl y gyfraith. Gelwir y gŵr neu'r wraig y byddwch yn eu hysgaru yn 'atebydd' yn ôl y gyfraith.
Bydd angen i chi gyflenwi copïau o'ch tystysgrif priodas, manylion am unrhyw blant dan sylw yn ogystal ag enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'ch gŵr neu'ch gwraig wedi godinebu â hwy os ydych yn dymuno eu henwi yn yr achos ysgariad fel sail i'r ysgariad ei hun. Y 'cyd-atebydd' ydyn nhw.
Yna, bydd y llysoedd yn postio copi o'r ddeiseb at eich gŵr neu'ch gwraig ac unrhyw gyd-atebyddion a enwyd yn eich deiseb ysgariad. Dywedir bod rhywun yn 'cyflwyno'r ddeiseb' wrth wneud hyn.
Wedi hyn bydd gan eich gŵr neu'ch gwraig wyth niwrnod i gydnabod eu bod wedi derbyn y ddeiseb. Os na wnânt hyn, bydd y llys yn cysylltu â chi ac yn gofyn am ragor o fanylion ac, os oes angen, yn trefnu i swyddog llys - a elwir yn feili - gyflwyno'r ddeiseb yn bersonol.
Ar ôl cyflwyno'r ddeiseb, mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ai cytuno ynteu herio'r ysgariad y bydd y gŵr neu'r wraig. Efallai bydd y llys yn gofyn i chi ddarparu mwy o wybodaeth. Os oes gennych blant bydd rhaid i'r llys archwilio'r trefniadau a wnaethpwyd ar gyfer y plant (e.e. â phwy y byddant yn byw, lle byddant yn byw, pa gysylltiad fydd ganddynt â'r rhiant na fydd yn byw gyda hwy) a chytuno â hwy cyn caniatau'r ysgariad.
Gelwir rhan nesaf - a phwysicaf - y broses ysgaru yn 'Archddyfarniad Nisi'. Dyma'r cam cyntaf o'r ysgariad ei hun. Dim ond pan fydd y barnwr wedi adolygu'r holl bapurau ac yn fodlon bod sail gadarn ar gyfer ysgariad y caniateir hyn. Bydd y barnwr hefyd yn sicrhau fod pawb yn gytun ar yr holl faterion ariannol a'r trefniadau ar gyfer y plant neu'u bod yn y broses o gael eu datrys. Efallai y bydd gofyn i chi fynd i'r llys, ond mae llawer o ysgariadau yn digwydd yn gyfan gwbl trwy'r post.

Archddyfarniad Absoliwt

Gelwir rhan olaf yr ysgariad yn 'Archddyfarniad Absoliwt'. Cewch wneud cais am Archddyfarniad Absoliwt chwe wythnos a diwrnod ar ôl yr Archddyfarniad Terfynol. Os na fyddwch chi'n gwneud cais am yr Archddyfarniad Absoliwt, yna gall eich gur neu'ch gwraig, fel yr atebydd, wneud cais amdano, ond dim ond ar ôl i dri mis arall fynd heibio.

Pan dderbyniwch yr Archddyfarniad Terfynol, ni fyddwch yn briod bellach a bydd gennych hawl ail-briodi. Dim ond pan fydd y barnwr yn cytuno fod yr holl drefniadau ar gyfer y plant yn foddhaol y bydd y llys yn dyfarnu Archddyfarniad Absoliwt. Caiff barnwr wneud gorchymyn ariannol terfynnol cyn i'r Archddyfarniad Absoliwt gael ei ganiatau, ond ni fydd y gorchymyn yn dod i rym nes bydd yr archddyfarniad wedi cael ei wneud yn absoliwt.

Cael help gyda'r broses

Nid oes raid i chi ddefnyddio twrnai; mae nifer o barau yn ysgaru heb ymgynghori â thwrnai. Ond mae'n bosib y bydd arnoch angen cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr a oes gennych sail i gael ysgariad ai peidio, os nad yw eich gŵr neu'ch gwraig yn cytuno i gael ysgariad, neu os oes gennych blant. Efallai y bydd arnoch angen cyngor cyfreithiol am agweddau ariannol, hyd yn oed os byddwch yn cytuno sut i rannu eich eiddo a'ch arian. Gelwir y broses o gael trefn ar ochr ariannol yr ysgariad yn 'llareiddiad ategol'. Ni fydd eiddo'n cael ei rannu'n awtomatig mewn rhaniad 50/50 bob tro. Os byddwch yn mynd i lys bydd y barnwr yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pwy ddylai gael beth, ond anghenion unrhyw blant fydd y brif ystyriaeth bob amser.
Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflenni angenrheidiol, a gallant eich helpu i ddod o hyd i dwrnai, os oes angen un arnoch.
Mae nifer o ffynonellau ar gael ar-lein sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth yn rhad ac am ddim yn ystod cyfnod a allai fod yn ddirdynnol ac yn anodd iawn. Rhestrir rhai ohonynt isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU