Pan fydd ysgaru neu wahanu'n digwydd, mae'n gyfnod anodd i bawb sy'n gysylltiedig, ac mae'n hawdd i'r plant gael eu tynnu i mewn yn emosiynol i'r hyn sy'n digwydd. Fodd bynnag, mae sawl ffordd y gallwch helpu i wneud y broses mor ddi-boen â phosib i'ch plant.
Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr ym maes gofal plant yn cytuno ei bod yn bwysig i chi roi gwybod i'ch plant beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod wrth wahanu neu ysgaru. Ni fyddwch yn amddiffyn eich plant drwy gadw pethau oddi wrthynt.
Dywedwch wrth eich plant beth sy'n digwydd i'w teulu, mae'n well iddynt wybod. Nid oes rhaid i chi roi pob manylyn iddynt, ond bydd angen digon o wybodaeth arnynt i wybod beth sy'n digwydd, yn dibynnu ar eu hoedran. Efallai na fyddant yn dymuno cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau, ond er hyn, bydd y mwyafrif o blant eisiau teimlo'u bod yn cael eu clywed. Anogwch hwy i ofyn cwestiynau a cheisiwch roi atebion gonest a chalonogol iddynt, ond peidiwch ag addo pethau na allwch gadw atynt. Os nad oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch rhywbeth, dywedwch hynny, a chysurwch hwy y byddwch yn dweud wrthynt cyn gynted ag y gallwch.
Os nad oes cwestiwn ynghylch diogelwch y plentyn ac os gallwch gytuno ar gefnogaeth ariannol, eiddo a threfniadau (megis lle fydd y plentyn/plant yn byw) cewch lenwi ffurflen ac ni fydd angen i chi fynd i lys er mwyn cael gwrandawiad. Y ffurflen y bydd ei hangen arnoch yw 'Datganiad Trefniadau ar gyfer Plant', a elwir hefyd yn Ffurflen D8A. Bydd yr holl ffurflenni ysgaru ar gael mewn llys sirol sy'n delio ag ysgariadau yn eich ardal chi, a'r Brif Gofrestrfa yn Llundain. Neu gallwch lwytho'r ffurflenni o ddolen Gwasanaeth Llysoedd EM isod.
Os na allwch gytuno â'r telerau gallai barnwr ymyrryd neu gellid eich cyfeirio at gyfryngwyr. Mewn achosion o'r fath efallai y bydd y barnwr yn dymuno siarad â'ch plant mewn gwrandawiad llys.
Ni fydd y barnwr yn dod â mater eich ysgariad i ben os nad yw'n teimlo bod y trefniadau ar gyfer eich plentyn/plant yn dderbyniol. Byddai'n llawer gwell pe baech yn dod i drefniant ymysg eich gilydd.
Fel arfer, mae'n well cyrraedd cytundeb am faterion megis gofal eich plant oddi allan i'r llys. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu cytuno'n llwyr, ond fe all hyn fod yn help i wneud pethau'n haws eu datrys, hyd yn oed os byddwch chi'n mynd i'r llys. Gellir defnyddio cyfryngu pan fyddwch wedi penderfynu bwrw ymlaen i ysgaru, diddymu'ch partneriaeth sifil neu wahanu, a'r nod yw eich helpu i ganfod atebion rhyngoch mewn ffordd sy'n lleihau gwrthdaro. Fe allwch ofyn i gyfryngwr teulu hyfforddedig fod yn drydydd parti di-duedd; byddan nhw'n helpu cyplau i gytuno heb ochri efo neb.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal chi drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627, neu drwy ymweld â gwefan y Llinell Gyfryngu i Deuluoedd.