Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Delio â phroblemau mewn perthynas     

Os ydych chi'n cael problemau yn eich perthynas, gall gwneud rhywbeth am y peth yn fuan a manteisio ar wasanaeth cwnsela ei hatal rhag chwalu. Fodd bynnag, os yw perthynas yn bendant wedi dod i ben, yna gall cyfryngu helpu i sicrhau bod y chwalfa'n brifo cyn lleied â phosib a'i bod yn achosi llai o niwed i bawb.

Cwnsela

Gall cwnselydd eich helpu i drafod materion emosiynol a bydd yn helpu cyplau sy'n awyddus i achub eu priodas. Mae cwnselwyr wedi cael eu hyfforddi'n broffesiynol, er bod rhai'n cynnig eu gwasanaethau'n wirfoddol. Maen nhw'n cael eu hyfforddi i wrando ac i'ch helpu i ddod o hyd i'ch atebion eich hun i broblemau yn eich perthynas. Dydyn nhw ddim yn negodi ar eich rhan nac yn dweud wrthych beth i'w wneud.

Cymorth i deuluoedd yw cwnsela sy'n gallu helpu'r teulu i gyd i ddelio gyda phroblemau ac atal y berthynas rhwng pobl rhag chwalu a rhannu teuluoedd.

Mae mynd i'r afael â phroblemau'n fuan yn bwysig er mwyn achub perthynas. Hwya'n y byd y gadewir problem heb ei datrys, mwyaf anodd fydd delio â hi.

Gall cwnsela hefyd helpu teulu i dderbyn beth sy'n digwydd iddynt ac i ddelio â'r straen emosiynol y gall gwahanu neu ysgaru ei greu o fewn teulu. Gallai ceisio datrys pethau drwy wasanaeth cwnsela neu gyfryngu arwain at well trafodaethau rhwng y teulu a gwell perthynas rhwng pobl yn y tymor hir ar ôl yr ysgariad.

Cyfryngu

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627

Mae cyfryngu'n wahanol i gwnsela ac mae a wnelo mwy â delio gydag agweddau ymarferol bywyd bob dydd ar ôl i berthynas chwalu. Mae'n debycach i negodi cytundeb a datrys anghydfod heb y twrneiod neu'r llysoedd. Fe allwch ofyn i gyfryngwr teulu hyfforddedig fod yn drydydd parti diduedd; byddan nhw'n helpu cyplau i gytuno heb ochri efo neb. Mae arian cyhoeddus ar gael i'r rheini sy'n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol. Mae'r arian ar gyfer cyfryngu, ar gyfer cymorth cyfreithiol yn ystod ac ar ôl cyfryngu, ac i gael cyngor cyfreithiol ar unrhyw beth y cytunwyd arno.

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau cyfryngu yn eich ardal chi drwy ffonio'r Llinell Gyfryngu i Deuluoedd ar 0845 60 26 627, neu drwy ymweld â'r gwefannau isod.

Cyfryngu yn ystod ysgariad, ar ôl diddymu partneriaeth sifil neu ar ôl gwahanu

Gallwch negodi'n uniongyrchol gyda'ch partner a chael cytundeb heb unrhyw help allanol am faterion megis gofalu am eich plant a rhannu eiddo ac arian. Fel arfer, dyna'r ffordd orau. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu cytuno ar bopeth, ond fe all ddal i fod yn help i wneud pethau'n haws eu datrys, hyd yn oed os ewch chi i'r llys.

Gellir defnyddio cyfryngu pan fyddwch wedi penderfynu bwrw ymlaen i ysgaru, diddymu neu wahanu, drwy eich helpu i ganfod atebion rhyngoch mewn modd sy'n lleihau gwrthdaro.

Credydau treth a pherthynas yn chwalu

Os oeddech chi'n cael credydau treth fel cwpwl, ond eich bod bellach wedi gwahanu, gallwch wneud hawliad newydd, fel person sengl, dros y ffôn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y trefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith o fewn wythnos, felly ni fyddwch yn peidio â chael taliadau am gyfnod. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0845 300 3900.

Allweddumynediad llywodraeth y DU