Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Atal cymryd rhan mewn troseddau

Er mwyn atal eich plentyn rhag mynd i drwbwl gyda'r gyfraith, mae'n bwysig deall y rhesymau pam mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn troseddu yn y lle cyntaf.

Beth sy’n gwneud i blentyn droseddu?

Gall plentyn droi at droseddu am nifer o resymau, ond dyma'r rhai mwyaf cyffredin:

  • diffyg addysg a chwarae triwant
  • perthynas wael rhwng gwahanol aelodau o’r teulu
  • pwysau gan gyfoedion (bod â ffrindiau sy'n troseddu)
  • bod ag aelodau o'r teulu sy'n troseddu
  • camddefnyddio alcohol a chyffuriau
  • pryderon iechyd meddwl, megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)

Efallai mai'r peth pwysicaf i'w gofio yw mai rhieni pobl ifanc yw'r modelau rôl cyntaf a phwysicaf a gânt yn eu bywydau. Os yw rhieni plentyn yn rhoi esiampl dda o ran ymddygiad ac yn parchu pobl eraill, bydd y plentyn yn llawer mwy tebygol o wneud yr un peth.

Modelau rôl eraill

Nid rhieni'n unig all roi esiampl dda. Caiff plant a phobl ifanc hefyd eu dylanwadu gan unrhyw un arall y byddant yn teimlo cysylltiad â hwy. Felly, gall pobl fel athrawon, aelodau eraill o'r teulu fel ewythrod, modrybedd neu neiniau a theidiau/mam-gu a thad-cu, a phobl adnabyddus yn y gymuned, hyd yn oed, gael effaith. Ceisiwch ddod o hyd i bobl fel hyn sydd â gwerthoedd moesol da ac sy'n dangos caredigrwydd a pharch tuag at bobl eraill, ac anogwch eich plentyn i dreulio amser gyda hwy ac i ymddwyn yn debyg iddynt.

Ar ôl oriau ysgol

Mae ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o droseddau a gyflawnir gan bobl ifanc yn digwydd rhwng 3.00pm a 6.00pm. Mae'n annhebygol y byddwch yn boblogaidd iawn os byddwch yn ceisio atal eich plentyn rhag cymdeithasu gyda'i ffrindiau ar ôl ysgol, ond os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn cymryd rhan mewn troseddau, mae'n werth gwybod pryd y maent fwyaf tebygol o droseddu.

Rhaglenni Magu Plant

Mae help a chyngor ymarferol ar gael i rieni os yw eu plant mewn perygl o droseddu. Mae rhaglenni magu plant yn cynnig cyngor a chefnogaeth un-i-un, ac yn helpu rhieni i wella eu sgiliau o ran ymdrin ag ymddygiad sy'n achosi problemau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu rhaglen magu plant, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Os yw eich plentyn mewn perygl o droseddu, efallai y bydd eich Tîm Troseddau Ieuenctid yn awgrymu i chi fynychu rhaglen magu plant. Os byddwch chi'n gwrthod, gallant eich gorfodi i fynychu drwy Orchymyn Magu Plant.

Beth yw Gorchymyn Magu Plant?

Os rhoir Gorchymyn Magu Plant i chi, gallech orfod mynychu sesiynau cwnsela neu raglen magu plant am hyd at dri mis. Hefyd, gallech orfod bodloni rhai neu bob un o'r amodau hyn:

  • mynychu cyfarfodydd gydag athrawon yn ysgol eich plentyn
  • sicrhau na aiff eich plentyn i rai mannau penodol heb oruchwyliaeth
  • sicrhau bod eich plentyn gartref ar rai adegau penodol o'r diwrnod

Gall yr amodau hyn bara hyd at 12 mis. Gellir erlyn rhiant neu ofalwr am fethu â bodloni amodau Gorchymyn Magu Plant.

Mentoriaid

Gwirfoddolwr yw mentor, a'i rôl yw cymell a chefnogi person ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Bydd mentoriaid yn meithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth a chyfrinachedd gyda phobl ifanc dros gyfnod hir o amser. Anogir pobl ifanc hefyd i ystyried bod eu mentor yn unigolyn cyfartal â hwy. Dros amser, gall mentoriaid helpu pobl ifanc i gyrraedd targedau cymdeithasol neu addysgol y maent wedi'u pennu gyda'i gilydd, a lleihau'r perygl o droseddu.

I gael rhagor o wybodaeth am fentoriaid, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU