Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-daliadau plant a chymorth ar gyfer rhieni sy'n mynd yn ôl i weithio      

Os ydych chi'n mynd yn ôl i'r gwaith a bod gennych blant, fe allwch gael help ariannol ac ymarferol gyda gofal plant. Mae sawl gwahanol fath o help ar gael i wneud bywyd yn haws - o gredydau treth i drefniadau gweithio hyblyg.

Addysg blynyddoedd cynnar

Mae gan bob plentyn rhwng tair a phedair oed yr hawl i gael deuddeg awr a hanner o addysg gynnar yr wythnos, am 38 wythnos y flwyddyn, gyda 'darparwr cofrestredig' fel ysgol, meithrinfa neu grŵp chwarae, beth bynnag y bo'u hincwm neu amgylchiadau.

Bydd rhai cyflogwyr mawr yn darparu addysg blynyddoedd cynnar cofrestredig yn y gweithle. Gallwch hefyd ddefnyddio gofalwr plant cofrestredig os ydyn nhw'n rhan o rwydwaith gofal plant cymeradwy.

Credydau Treth

Credyd Treth Plant

Lwfans ar sail incwm ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn ydy'r Credyd Treth Plant. Bydd naw o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael Credyd Treth Plant.

Credyd Treth Gwaith

Os ydych chi'n gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'ch bod ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch chi gael Credyd Treth Gwaith hefyd.

Mae'r Credyd Treth Gwaith yn cynnwys elfen benodol i helpu gyda chost gofal plant cofrestredig neu gymeradwy i rieni sy'n gweithio. Gall yr elfen gofal plant helpu gyda hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.

Ond dim ond hyn a hyn o'r costau wythnosol y cewch chi eu hawlio. Os byddwch chi'n talu am ofal plant ar gyfer:

  • un plentyn, chewch chi ddim hawlio mwy na £175 yr wythnos
  • dau blentyn neu fwy, chewch chi ddim hawlio mwy na £300 yr wythnos

I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael Credydau Treth, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Amser o'r gwaith a gweithio hyblyg

Amser o'r gwaith ('absenoldeb rhiant')

Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, bydd gennych yr hawl i fod yn absennol o'r gwaith am hyd at 13 wythnos ar gyfer pob plentyn nes eu bod yn bump oed (fe gewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu ichi am yr amser hwn, ond mae'n bosib y byddan nhw'n dewis gwneud hynny fel rhan o'ch pecyn cyflogi.

Gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg yn golygu y cewch chi ofyn i'ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd i'ch helpu i ofalu am eich plentyn. Os oes gennych blentyn dan chwech oed neu blentyn anabl dan 18 oed, mae gennych chi'r hawl i ofyn am batrwm gwaith hyblyg. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais yn ddifrifol.

Er mwyn gallu gofyn am gael patrwm gweithio hyblyg, rhaid i chi:

  • fod wedi gweithio i'ch cyflogwyr am o leiaf 26 wythnos
  • fod yn fam, yn dad, yn fabwysiadwr, yn warcheidwad cyfreithiol neu'n rhiant maeth i'r plentyn - neu'n bartner i un o'r rhain
  • fod yn gyfrifol am fagu'r plentyn
  • fod yn gwneud y cais er mwyn i chi allu gofalu am y plentyn

Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth wneud cais am batrwm gweithio hyblyg. Dim ond un cais y flwyddyn gewch chi ei wneud.

Grant Swydd

Taliad unswm di-dreth yw Grant Swydd ac mae'n bosib y cewch chi hwn wrth ddechrau gweithio'n llawn amser (o leiaf 16 awr yr wythnos). Fe gewch chi hwn os ydych chi (a'ch partner os oes gennych un) yn 25 oed neu'n hŷn a'ch bod wedi bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau hyn am 26 wythnos o leiaf cyn i chi ddechrau gweithio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (y ddau fath)
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol

I rieni unigol a chyplau sydd â phlant, swm y grant yw £250. (Os ydych chi neu'ch partner dan 25 oed, mae'n bosib y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol.)

Sut y mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar fudd-daliadau

Os ydych chi (neu’ch partner presennol sy’n cyd-fyw â chi) yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, ni fydd y £20 yr wythnos gyntaf o gynhaliaeth a gewch yn effeithio ar y budd-daliadau hynny. Mae’r drefn hon yn estyn ar draws cynlluniau hen a newydd y CSA ac mae hefyd yn berthnasol os ydych yn trefnu cynhaliaeth drwy gytundeb preifat.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r Ganolfan Byd gwaith am unrhyw gynhaliaeth a gewch.

Cael gwybod mwy am gynhaliaeth a budd-daliadau:

Cael help gan eich cyflogwr

Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig help i weithwyr dalu am eu gofal plant, gall hyn gynnwys:

  • rhoi arian parod i chi dalu am ofal plant
  • talu am y ffioedd gofal plant yn uniongyrchol
  • talu am ffioedd ysgol y plentyn

Os bydd eich cyflogwr yn cynnig unrhyw un o'r uchod i chi, bydd yn rhaid i chi dalu treth a chyfraniadau yswiriant gwladol ar ba bynnag gymorth a roddir. Mae mathau eraill o gymorth gofal plant y gall eich cyflogwr ei ddarparu fodd bynnag, heb i chi orfod talu treth neu gyfraniadau yswiriant gwladol. Sef:

  • talebau gofal plant
  • gofal plant wedi'i gontractio'n uniongyrchol
  • meithrinfeydd yn y gweithle

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth y gallech ei gael gan eich cyflogwr, llwythwch y daflen isod.

Additional links

Cymorth gyda materion ariannol i’ch plant

Gyda theulu sy’n tyfu, mae’n bosib y bydd angen ychydig o gymorth ariannol arnoch.  Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i beth gallwch fod yn gymwys iddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU