Mathau o ofal plant
Mae nifer o ddewisiadau o ran gofal plant. Yma, cewch wybod beth sydd ar gael er mwyn eich helpu i ddewis y gofal plant sydd orau ar eich cyfer chi ac ar gyfer anghenion eich plentyn.
Dewisiadau gofal plant
Mae'ch dewisiadau gofal plant yn cynnwys:
- Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn – sy’n cynnig dysgu cynnar, gofal plant, cyngor iechyd a chefnogaeth teuluol i deuluoedd gyda phlant i fyny at bump
- meithrinfeydd - sy'n darparu gofal achlysurol i blant dan wyth oed
- grwpiau plant bach - grwpiau anffurfiol o rieni a gofalwyr sy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda'u plant mewn ardal leol, fel arfer yn cynnwys plant dan bump oed
- cylchoedd cyn-ysgol a grwpiau chwarae - sy'n darparu amser chwarae ac addysg gynnar yn aml i blant dan bump oed
- meithrinfeydd dydd - sy'n darparu gofal i blant o'u genedigaeth hyd at bedair neu bump oed ac uwch, yn aml yn cael eu hintegreiddio gydag addysg gynnar a gwasanaethau eraill
- clybiau y tu allan i'r ysgol - sy'n cynnig amgylchedd ysgogol y gall plant rhwng pedair a 12 oed chwarae a dysgu ynddi y tu allan i oriau ysgol
- gwarchodwyr plant - sydd fel arfer yn gwarchod plant dan 12 oed yng nghartref y gwarchodwr ei hun ac yn aml yn casglu plant o oedran ysgol o ysgol gyfagos
- gofalwyr plant yn y cartref - gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gweithio yn eich cartref chi (cewch wybod sut i gofrestru eich cartref os byddwch yn ei ddefnyddio fel lleoliad gofal plant drwy glicio ar y ddolen isod)
- nanis - sy'n darparu gofal plant yn eich cartref chi ac yn medru gwarchod plant o unrhyw oedran
Dod o hyd i ofal plant
Gall dod o hyd i ofal plant deimlo fel gorchwyl diflas, ond mae cymorth ar gael.
Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i ofal plant a meithrinfeydd yn eich ardal, ac i gael help gyda'ch dewis o ofal plant.
Gwasanaethau gwybodaeth gofal plant
Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich cynghori am opsiynau gofal plant a pha rai sydd ar gael yn eich ardal hefyd. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad diduedd ac o safon ar ofal plant, addysg gynnar a gwasanaethau plant eraill.
Mae ganddynt wybodaeth am ofal plant cofrestredig Ofsted megis meithrinfeydd dydd, clybiau ar ôl ysgol, grwpiau chwarae cyn-ysgol a gwarchodwyr plant, ynghyd â gofal plant heb eu cofrestru megis grwpiau rhieni a phlant bach. Gallwch gael rhif ffôn eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd agosaf drwy ffonio 0800 234 6346.