Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dewis gofal plant

Mae rhoi eich plentyn yng ngofal dieithryn yn gam mawr, felly cyn i chi ddewis gofal plant efallai y byddwch yn dymuno gwneud rhywfaint o waith ymchwil.

Cofrestriad Ofsted

Mae'n rhaid i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, megis grwpiau chwarae, cylchoedd cyn-ysgol, meithrinfeydd preifat, crèches, a chlybiau ar ôl ysgol ar gyfer plant o dan wyth oed, gael eu cofrestru gan Ofsted Early Years (neu, yng Nghymru, gan yr Arolygiaeth Safonau Gofal). Mae cofrestru'n cynnwys archwilio cofnodion troseddol unrhyw un sy'n ymwneud â'r plant ac archwilio'r lleoliad i edrych ar faterion iechyd a diogelwch a lles addysgol.

Gallwch weld a yw gofal plant wedi'i gofrestru drwy ofyn am gael gweld tystysgrif cofrestru'r darparwr, neu drwy gysylltu ag Ofsted. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch darparwr, holwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd lleol. Gallwch gael rhif eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol agosaf drwy ffonio 0800 234 6346. Yn Lloegr, nid oes rhaid i ofal i blant dros wyth oed, na gofal i blant o unrhyw oed sy'n seiliedig ar un neu ddau o weithgareddau, neu sy'n cael ei ddarparu yng nghartref y plentyn (ee nanis), gael ei gofrestru gan Ofsted. Fodd bynnag, os yw'r darparwr yn ateb y gofynion ac yn dymuno cofrestru ar ran wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted, caiff wneud hynny, oni bai bod y gofal plant yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan ysgol.

Adroddiadau arolygu Ofsted

Mae Ofsted yn cynhyrchu adroddiadau pan fyddant yn arolygu gofal i blant dan wyth oed. Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl, yn seiliedig ar yr arolygiadau blynyddol.

Pan fydd Ofsted yn archwilio gofal sydd wedi ei gofrestru ar Gofrestr Gofal Plant Ofsted, byddant yn ysgrifennu llythyr sy'n cadarnhau a yw gofynion y cofrestru wedi eu hateb ai peidio.

Cynlluniau Sicrhau Ansawdd Buddsoddwyr mewn Plant

Mae darparwyr gofal plant gydag achrediad mewn cynlluniau Sicrhau Ansawdd Buddsoddwyr mewn Plant wedi dangos ymrwymiad i ofal plant o safon uchel, felly lle bo hynny'n bosib efallai y byddai'n well gennych ddewis un o'r darparwyr hyn.

Gwneud eich gwaith ymchwil eich hun

Mae bob amser yn syniad da ymweld â darparwyr gofal plant eich hunan - bydd barn rhiant yn golygu mwy nag archwiliadau ac achrediadau. Pan fyddwch yn ymweld, cofiwch ofyn digon o gwestiynau. Er mwyn cael syniadau pa fath o gwestiynau y gallech eu gofyn, beth am i chi ymweld â gwefan ParentsCentre?

Os byddwch yn ystyried cyflogi nani, cadwch mewn cof nad yw cynlluniau cofrestru ac achredu dan nawdd y llywodraeth yn berthnasol iddyn nhw. Eich cyfrifoldeb chi, fel rhiant a chyflogwr, yw sicrhau eich bod yn cyflogi nani a fydd yn gwarchod eich plant yn dda.

Lleisio pryderon a chwynion

Os oes gennych bryder neu gŵyn na allwch ei datrys gyda'ch darparwr gofal plant cofrestredig, ffoniwch Llinell Gymorth Ofsted’s Early Years Complaints ar 0845 601 4772. Nid yw Ofsted fel arfer yn cael eu cynnwys mewn cwynion yn ymwneud â ffioedd a threfniadau contract.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU