Er bod llawer o blant yn Lloegr sy'n chwilio am deulu i'w mabwysiadu, mae llawer o blant o wledydd tramor hefyd yn chwilio am gartref, a mabwysiadu rhwng gwledydd yn aml yw'r unig gyfle sydd ganddynt o gael perthyn i deulu parhaol.
Mae'r llywodraeth yn annog mabwysiadu rhwng gwledydd dan yr amgylchiadau canlynol:
Os hoffech fabwysiadu plentyn o wlad dramor dylech droi yn gyntaf at eich cyngor lleol neu at asiantaeth fabwysiadu wirfoddol sydd wedi'i chofrestru i weithio ym maes mabwysiadu rhwng gwledydd. Ceir manylion cyswllt awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol sydd wedi'u cofrestru i weithio ym maes mabwysiadu rhwng gwledydd ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.