Unwaith y byddwch wedi penderfynu mabwysiadu plentyn, y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â'ch asiantaeth fabwysiadu leol i wneud ymchwiliad cychwynnol. Wedi hyn, gall eich asiantaeth fabwysiadu ofyn i chi ddod i gyfarfod ble cewch gwrdd a chael sgwrs gyda gofalwyr cymdeithasol a rhieni mabwysiadu.
Wedi hyn, gall eich asiantaeth fabwysiadu ofyn i chi ddod i gyfarfod ble cewch gwrdd a chael sgwrs gyda gofalwyr cymdeithasol a rhieni mabwysiadu.
Os penderfynwch chi fwrw ymlaen â'r cais a bod hwnnw'n cael ei dderbyn gan yr asiantaeth fabwysiadu, bydd gweithiwr cymdeithasol yn cynnal yr hyn a elwir yn asesiad astudio'r cartref.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â'ch cartref sawl gwaith a bydd hefyd:
Bydd rhaid i chi gael archwiliad meddygol llawn gan eich Meddyg Teulu chi'ch hun, a fydd yn rhoi adroddiad i ymgynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu'n sôn am hanes eich iechyd chi a'ch teulu. Bydd y wybodaeth hon yn help i'r ymgynghorydd meddygol asesu goblygiadau iechyd y mabwysiadu'n iawn. Gall roi gwybod i'r asiantaeth fabwysiadu os oes unrhyw resymau iechyd hysbys a fyddai'n golygu na allech chi ofalu am blentyn dan 18 oed.
Mae asesiad astudio'r cartref yn dipyn o dreth, gall deimlo bod pobl yn ymyrryd, a bydd angen sawl mis i'w gwblhau. Byddan nhw'n trafod pob agwedd yn fanwl gyda chi. Wrth fabwysiadu, byddwch chi'n gwneud hynny am oes, a rhaid i'r asiantaeth fod yn dawel ei meddwl eich bod yn iawn ar gyfer y gwaith. Mae hi'r un mor bwysig eich bod chithau'n sicr y gallwch lwyddo.
Unwaith i chi weld cynnwys adroddiad astudio'r cartref a chytuno iddo, bydd panel mabwysiadu'n ei ystyried ac yna'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn yr asiantaeth, sef un o'r uwch reolwyr yn yr Adran Gwasanaethau Plant.
Panel mabwysiadu yw corff o bobl sydd â'r grym i ystyried:
Trosglwyddir argymhelliad ysgrifenedig y panel i benderfynwr yr asiantaeth er mwyn gwneud y penderfyniad terfynol.
Dylai'r broses asesu a chymeradwyo bara oddeutu wyth mis ar ôl eich galwad ffôn gyntaf i'r asiantaeth fabwysiadu. Unwaith i'r cais gael ei gymeradwyo, fe all y broses o'ch cyfatebu gyda phlentyn addas yn y DU gymryd rhwng ychydig o wythnosau i dros flwyddyn. Ni all llys wneud Gorchymyn Mabwysiadu nes bod plentyn wedi byw gyda chi am o leiaf 13 wythnos. Ar gyfartaledd, bydd y broses fabwysiadu'n cymryd dwy flynedd rhwng asesiad astudio'r cartref a gwneud y gorchymyn mabwysiadu, ond mae pob achos yn wahanol.
Ers 31 Hydref 2003 mae gan deuluoedd sy'n mabwysiadu hawl newydd i ofyn i'w hawdurdod lleol asesu a oes angen gwasanaethau cymorth arnynt, gan gynnwys cymorth ariannol.
Yna, bydd awdurdodau lleol yn ystyried yr asesiad hwn ac yn penderfynu a ddylid darparu gwasanaethau cymorth fel hyn, gan ystyried barn y teulu. Disgrifir unrhyw wasanaethau a ddarperir mewn cynllun, a fydd yn amlinellu'n glir sut y darperir y gwasanaethau hyn. Bwriad hyn yw sicrhau bod pawb yn glir ynghylch yn yr hyn a ddarperir, pa bryd a chan bwy.
Bydd gan blentyn a roddir i'w fabwysiadu lawer o gwestiynau ynghylch beth mae'n ei olygu a pham ei fod yn digwydd. Fe allai'r taflenni canlynol fod o help wrth sgwrsio gyda phlentyn neu berson ifanc am fabwysiadu.
Gallwch roi manylion am eich cartref yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i'ch wefan awdurdodol lleol ble gallwch ddod o hyd i fwy.