Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllawiau - arian ar ôl ymddeol

Unwaith i chi roi'r gorau i weithio, bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o arian i fyw arno. Cael gwybod am bensiynau, mathau eraill o incwm a materion ariannol a all fod yn berthnasol i chi ar ôl ymddeol.

Budd-daliadau a lwfansau treth ar ôl ymddeol

Pan fyddwch chi'n ymddeol, fel arfer bydd gennych lai o incwm. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae rhai budd-daliadau'n seiliedig ar oedran, mae eraill yn dibynnu ar eich incwm. Mae lwfansau treth hefyd yn fwy hael ar ôl i chi gyrraedd 65 oed os yw eich incwm o dan ryw lefel benodol.

Talu treth neu beidio ar ôl ymddeol

Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol rhagor, ond ni fyddwch o anghenraid yn cael peidio â thalu Treth Incwm. Os yw eich incwm trethadwy - gan gynnwys eich pensiwn - yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, byddwch chi'n dal i orfod talu treth.

Sut gaiff incwm eich pensiwn ei drethu

Mae Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw bensiwn cwmni neu bersonol a gewch chi'n drethadwy. Fel arfer, telir Pensiwn y Wladwriaeth heb dynnu'r dreth, ond gan amlaf bydd y dreth yn cael ei thynnu oddi ar bensiwn cwmni a phensiwn personol cyn i chi eu cael. Mae sut y byddwch chi'n talu treth ar incwm eich pensiwn yn dibynnu ar ba fath o bensiwn sydd gennych a'ch incwm trethadwy cyffredinol. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio treth yn ôl.

Hawlio'n ôl os talwyd gormod o dreth yn ystod ymddeoliad

Mae incwm blwydd-daliadau ymddeol a llog ar gynilion (incwm cyson sy'n daliadwy trwy hyd bywyd) yn cael eu trethu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Os byddwch ar incwm isel ar ôl ymddeol, efallai y gallwch dderbyn y mathau hyn o incwm yn ddi-dreth. Efallai hefyd y gallwch hawlio treth yn ôl os ydych wedi talu gormod o dreth arnynt yn y gorffennol.

Lwfansau a all ostwng eich treth ar ôl ymddeol

Wrth i chi heneiddio mae rhai lwfansau ar sail oed sy'n gallu gostwng eich treth. Mae rhai o'r rhain yn symiau o incwm nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt - eraill yn symiau sy'n gostwng eich bil treth.

Gweithio'n rhan-amser ar ôl i chi ymddeol

Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - boed hwnnw'n waith cyflog neu'n waith gwirfoddol. Cewch ddewis dal i weithio tra'n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio'ch Pensiwn a chael mwy yn nes ymlaen. Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig cynlluniau a chymhellion i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Pensiynau, budd-daliadau a threth wrth ymddeol dramor

Os ydych chi'n ymddeol dramor, neu'n ystyried gwneud hynny, mae'n bwysig edrych ar yr effaith a gaiff hyn ar eich sefyllfa ariannol cyn i chi fynd. Dylai hyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n iawn.

Additional links

Teithio ar fws am ddim

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu'n anabl gymwys, mae'ch tocyn bws wedi newid ers mis Ebrill 2008

Allweddumynediad llywodraeth y DU