Trwy ganfod canser o'r fron a chyflyrau eraill ar y fron yn gynnar y ceir y siawns gorau o driniaeth lwyddiannus. Mae Rhaglen Sgrinio'r Fron y GIG yn cynnig gwasanaeth sgrinio'r fron bob tair blynedd i bob menyw yn y DU sy'n 50 neu drosodd.
Mae merched rhwng 50 a 70, sydd wedi’u cofrestri â meddyg, yn cael gwahoddiad sgrinio’r fron pob tair blynedd. Dylai eich canolfan sgrinio leol neu eich ymddiriedolaeth gofal sylfaenol gysylltu â chi a threfnu apwyntiad cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.
Nid ydy merched dros 70 yn cael gwahoddiad fel arfer i sgrinio’r fron ond maent dal â hawl i sgrinio’r fron, ac maent yn gallu ffonio eu huned sgrinio’r fron i ofyn am sgrinio bob tair blynedd.
Mae sgrinio'r fron yn ffordd o ganfod canser o'r fron yn gynnar iawn. Y cam cyntaf yw pelydr-x o bob bron - mamogram - a gymerir drwy wasgu'r fron yn ofalus. Gall y mamogram ganfod newidiadau bychain ym meinwe'r fron a all fod yn arwydd o ganserau sy'n rhy fach i gael eu teimlo gan y ferch ei hun na chan feddyg.
Yn ôl Mrs Jean Sale: "Pan gefais famogram yn yr ysbyty, nid oedd modd gweld y lwmp na'i deimlo ac mae'n rhaid ei fod yn ddwfn iawn, gan mai dim ond ar yr uwchsain yr oedd i'w weld. Cefais lawdriniaeth yn sydyn iawn ar ôl i'r lwmp gael ei ganfod."
Chwe mis yn ddiweddarach, cafodd Jean famogram arall ac archwiliad ar roedd popeth yn iawn. "Rhaid i mi fynd yn ôl ymhen chwe mis eto. Roeddwn yn eithaf pryderus i ddechrau ond erbyn hyn rwy'n falch iawn fod popeth wedi clirio."
Ceir nifer o fudiadau sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ferched gyda chanser y fron neu broblemau eraill sy'n gysylltiedig â'r fron.
Mae Gofal Canser y Fron yn cynnig gwasanaeth cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth yn ddi-dâl. Ffoniwch y llinell gymorth ddi-dâl ar 0808 800 6000 neu ewch ar y wefan.
Yn yr Alban, gallwch gysylltu â'ch Bwrdd GIG lleol neu eich meddygfa i gael manylion eich canolfan sgrinio'r fron agosaf, neu ffonio 0131 551 8836 neu fynd ar y wefan.