Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Iechyd dynion hŷn

Gan fod dynion erbyn hyn yn byw'n hirach nag erioed, mae'n fwy hanfodol byth aros yn iach a mwynhau bywyd. Os ydych chi'n ddyn dros 50 oed, gall materion sy'n ymwneud â'ch iechyd megis problemau gyda'r brostad, clefyd y galon a chanser y bledren fod yn destun pryder arbennig i chi.

Problemau prostad

Mae chwarren y prostad yn rhan o system atgenhedlu dynion, wedi'i lleoli ger y bledren a'r pidyn ac yn amgylchynu'r tiwb sy'n cludo wrin o'r bledren.

Mae problemau megis hyperplasia prostatig anfalaen (BPH) a chanser y prostad yn anghyffredin mewn dynion dan 50. Mae prostatitis yn fwy cyffredin mewn dynion dan 50 a gellir ei drin gyda moddion neu lawdriniaeth.

Symptomau a diagnosis

Gall poen ac anhawster wrth basio dŵr gael ei achosi gan:

  • haint a llid
  • y prostad yn tyfu'n fwy yn araf (hyperplasia prostatig anfalaen, BPH)
  • canser y prostad - tiwmor sy'n tyfu'n araf, sydd hefyd yn achosi poen yn rhan isaf y cefn, y cluniau neu'r pelfis yn ogystal â phroblemau cael codiad

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Mae'r prawf PSA (Antigen Penodol y Brostad) yn brawf sy'n mesur lefel y PSA yn eich gwaed. Mae chwarren y brostad yn cynhyrchu PSA ac mae'n gollwng yn naturiol i'r llif gwaed. Os yw lefel y PSA yn y gwaed yn uwch na'r cyffredin, fe all hynny awgrymu bod canser y brostad yn ei gamau cynharaf. Fodd bynnag, mae cyflyrau eraill sydd heb fod yn ganser (megis y brostad yn chwyddo, prostatitis a haint wrinol) hefyd yn gallu peri i'r PSA godi.

Yr uchaf yw lefel y PSA, y mwyaf tebygol ydyw mai canser fydd y diagnosis. Fodd bynnag, gall y prawf PSA hefyd fethu â chanfod canser y brostad.

Gallai deiet uchel mewn brasterau anifeiliaid a chynnyrch llaeth gynyddu'r risg; gallai deiet sy'n cynnwys llawer o lysiau gwyrdd yn ddiogelu.

Mae gan Elusen Canser y Prostad linell gymorth ar 0845 300 8383 a gwybodaeth ar ei gwefan.

Canser y bledren

Mae canser y bledren yn effeithio ar leinin mewnol y bledren a dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin ymysg dynion, yn enwedig dynion dros 50. Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o'i gael a phobl sy'n gweithio gyda chemegion a ddefnyddir yn y diwydiannau llifo, lledr a rwber.

Symptomau

Mae'r symptomau'n cynnwys poen wrth basio dŵr, gwaed yn yr wrin ac eisiau pasio dŵr yn aml.

Mae Ymgyrch Everyman y Sefydliad Ymchwil Canser yn codi ymwybyddiaeth o ganserau dynion.

Anymataliaeth (Incontinence)

Mae methu dal dŵr yn broblem gyffredin sy'n effeithio ar gymaint ag un o bob tri o bobl. Mae modd ei wella'n hawdd neu o leiaf ei reoli.

Fel dyn, rydych yn fwy agored i risg o un o ddau fath o anymataliaeth wrth ichi heneiddio:

  • ysfa – ysfa fawr i basio dŵr yn cael ei ddilyn gan ollyngiadau trwm
  • gorlif – gollyngiadau bychain o bledren lawn

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Gall ymarferion llawr y pelfis helpu. Gofynnwch i'ch meddyg lleol neu nyrs eich practis am gyngor. Mae'r Sefydliad Anymataliaeth yn cyhoeddi taflenni ac mae ganddynt linell gymorth - 0845 345 0165 sy'n cynnig cyngor personol a chyfrinachol ynghyd â ble i ddod o hyd i wasanaeth anymataliaeth arbenigol y GIG yn lleol.

Problemau gyda'r ceilliau

Dylech archwilio'ch ceilliau'n rheolaidd am lympiau, beth bynnag yw'ch oedran.

Un broblem gyffredin gyda'r ceilliau i ddynion o bob oed yw chwydd a achosir gan hylif yn cronni o gwmpas y gaill (hydrocele). Bydd angen i chi fynd at eich meddyg.

Analluedd rhywiol/methu â chael codiad

Gydag analluedd rhywiol neu anhawster cael codiad, mae'r dyn yn cael problemau cyson wrth geisio cael codiad neu gael codiad digon da i gael cyfathrach rywiol.

Pwy sydd dan risg?

Mae'n bosib fod ryw bump y cant o ddynion 40 oed gyda'r cyflwr, sy'n codi gydag oedran, ac yn effeithio o bosib ar hyd at 25 y cant o ddynion 65 oed. Mae'n bosib bod unrhyw beth sy'n tarfu ar lif y gwaed i'r pidyn yn gallu achosi hyn. Mae diabetes, clefyd yr arennau, alcoholiaeth cronig, sglerosis ymledol, a chlefyd cardiofasgwlar yn achosi'r broblem mewn nifer o achosion.

Clefyd y galon a phwysau gwaed uchel (hypertension)

Mae un o bob pump dyn yn marw o glefyd y galon cyn eu bod yn 75 oed. Mae'n gyfrifol am fwy o farwolaethau ymysg dynion nag unrhyw glefyd arall.

Mae clefyd y galon yn rhedeg mewn teuluoedd, ac felly rydych yn fwy tebygol o'i gael os oes hanes o'r clefyd yn eich teulu. Mae'r ffactorau risg eraill yn cynnwys:

  • ysmygu
  • deiet afiach gyda gormod o fraster, yn arbennig braster dirlawn
  • diffyg ymarfer corff
  • bod dros eich pwysau
  • gormod o straen

Mae pwysau gwaed uchel yn ffactor risg sylweddol. Os yw eich pwysau gwaed wedi bod yn uchel am gyfnod hir, mae'r risg o gael trawiad ar y galon neu strôc yn fwy.

Menopos dynion neu argyfwng canol oed

Mae'n debyg ei bod yn fwy cywir disgrifio menopos dynion yn argyfwng canol oed neu'r andropos (gelwir yr hormonau gwrywol yn androgenau). Yn sicr nid yw lefelau hormonau dynion yn disgyn mor ddramatig â lefelau merched yn y menopos.

Symptomau

Mae'r symptomau'n cynnwys ysfa rywiol yn lleihau, siap y corff a mas y cyhyrau'n newid, ennill pwysau, chwysu, gwrido, blinder a phoenau cyffredinol ynghyd â llai o stamina, teimlo'n isel a newid mewn hwyliau. Gall y rhesymau dros y symptomau hyn gynnwys anemia, nam ar chwarren y thyroid, iselder, problemau priodasol, diffyg boddhad yn y gwaith, problemau ariannol a chamddefnyddio alcohol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU