Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Iechyd merched hŷn

Os ydych chi’n merch dros 50 mae clefydau megis canser y fron neu faterion iechyd megis diwedd y mislif (y menopôs) yn bryder neilltuol. Trwy gael gwybodaeth briodol, bydd gennych well syniad o sut i ofalu amdanoch chi'ch hun a diogelu chi'ch hun.

Canser y fron

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymysg merched o bob oed, ond mae 80 y cant o achosion yn digwydd ar ôl diwedd y mislif.

Symptomau - beth i gadw llygad amdano

Y symptom cyntaf y mae'r rhan fwyaf o ferched yn sylwi arno yw lwmp yn y fron; mae'r rhan fwyaf yn ddiniwed ond dylech fynd am archwiliad. Mae symptomau eraill yn cynnwys poen cyson yn y fron, rhedlif o'r deth, newid amlwg yn ymddangosiad eich bronnau neu sut maent yn teimlo, neu unrhyw bantiau, fel petai'r croen yn cael ei dynnu o'r tu mewn.

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Ceisiwch ddod yn gyfarwydd â'ch bronnau trwy eu harchwilio'n rheolaidd - bydd eich meddyg yn dangos ichi sut i wneud hynny neu dilynwch enghraifft ar-lein. Bydd sgrinio rheolaidd, trwy famogram neu belydr-x o'r fron, yn helpu i ganfod problemau ac mae'r gwasanaeth am ddim ar hyn o bryd. I gael cyngor a chefnogaeth am ddim, ffoniwch linell gymorth Gofal Canser y Fron ar 0808 800 6000, rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu rhwng 9.00 am a 2.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Canser serfigol

Mae canser serfigol yn effeithio ar ran isaf eich croth, sef ceg y groth (serfics). Mae'n fwyaf tebygol o ddigwydd mewn merched 25 - 65 oed.

Symptomau - beth i gadw llygad amdano

Gwaedu rhwng y mislif, ar ôl cael rhyw neu ar ôl diwedd y mislif, rhedlif gydag arogl annymunol o'r fagina, neu boen yn ystod cyfathrach rywiol.

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Nid prawf am ganser yw'r prawf 'pap' neu'r prawf ceg y groth ond yn hytrach mae'n canfod newidiadau cynnar yng nghelloedd ceg y groth sy'n digwydd cyn i ganser ymddangos. Amcangyfrifir bod canfod y canser yn gynnar a chael triniaeth gynnar yn atal hyd at 80 y cant o ganserau ceg y groth.

Mae merched 25 - 64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf ceg y groth am ddim bob tair i bum mlynedd trwy Raglen Sgrinio Serfigol y GIG. Mae merched dros 65 oed yn cael eu gwahodd os nad oedd eu tri phrawf blaenorol yn glir neu os nad ydynt wedi cael eu sgrinio erioed.

I gael rhagor o gyngor, ffoniwch NHS Direct ar 0845 46 47.

Canser ofarïaidd

Canser ofarïaidd yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin ymysg merched.

Mae'r clefyd yn effeithio'n bennaf ar ferched sydd wedi dod i ddiwedd eu mislif gyda 90 y cant yn digwydd ar ôl 45 oed.

Symptomau - beth i gadw llygad amdano

Er bod y symptomau'n cynnwys camdreuliad, teimlo'n chwyddedig, cyfog, gwaedu anarferol o'r fagina, poen yn y stumog neu'r pelfis, nid yw'n hawdd canfod symptomau cynnar.

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Y peth gorau i'w wneud yw mynd am archwiliad blynyddol o'r pelfis a bod yn ymwybodol o'r symptomau. Mae sgrinio genetig ar gael.

Osteoporosis

Gydag osteoporosis, mae'r esgyrn yn mynd yn fwy brau ac mae'n effeithio ar un o bob tair merch. Mae'r risg yn codi wrth i ferched heneiddio, mae'n gysylltiedig â diffyg oestrogen a achosir pan fydd y mislif yn dod i ben yn gynnar (cyn 45 oed), hysterectomi cynnar (cyn 45 oed) - yn enwedig os tynnir y ddwy ofari - a'r mislif yn peidio am chwe mis neu fwy oherwydd gor-ymarfer neu or-newynnu.

Symptomau - beth i gadw llygad amdano

Gall esgyrn dorri'n haws gydag osteoporosis, yn enwedig yr arddwrn, yr asgwrn cefn a'r glun. Bydd un o bob dwy ferch yn dioddef torasgwrn ar ôl 50 oed.

Ymwybyddiaeth - beth i'w wneud

Mae'r allwedd i atal y clefyd mor syml â bywyd iach ac egnïol. Dylid cynnwys llaeth a chynnyrch llaeth, llysiau gwyrdd deiliog, ffa pôb, pysgod esgyrnog a ffrwythau sychion yn eich deiet. Mae ymarfer dwyn pwysau, megis rhedeg, seiclo, bownsio ar drampolîn neu gerdded yn egnïol am o leiaf 20 munud dair gwaith yr wythnos yn gwella dwysedd yr esgyrn.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Gymdeithas Genedlaethol Osteoporosis.

Diwedd y mislif (y menopôs)

Gyda diwedd y mislif, mae ofarïau merched yn rhoi'r gorau i gynhyrchu'r hormonau benywaidd oestrogen a progesteron. Ar gyfartaledd, yr oedran pan fydd diwedd y mislif yn cychwyn yw 51 oed.

Symptomau - beth i gadw llygad amdano

Mae'r rhain yn amrywio o byliau o wres a gwrido, chwysu yn y nos, cymalau'n brifo, y fagina'n sych a phroblemau gyda'r bledren i newid mewn hwyliau, pryder, iselder a bod yn bigog.

Cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Menopause Amarant drwy ffonio 01293 413000, rhwng 11.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

HRT a therapïau amgen

Gall HRT (Hormone Replacement Therapy) helpu gyda symptomau diwedd y mislif. Mae arbenigwyr yn argymell eich bod yn cael asesiad bob dwy flynedd i weld a oes dal angen y driniaeth arnoch. Y peth gorau i'w wneud yw trafod y manteision a'r risgiau gyda'ch meddyg.

Gall therapïau amgen hefyd helpu gyda symptomau diwedd y mislif.

Hysterectomi

Llawdriniaeth i dynnu'r groth yw hysterectomi. Erbyn 55, bydd 20 y cant o ferched wedi cael hysterectomi,.

Nid yw diwedd y mislif yn digwydd yn otomatig onid yw'r ofarïau'n cael eu tynnu hefyd, ond gall ddigwydd yn gynt.

Mae'r amser y mae'n ei gymryd i wella o hysterectomi'n amrywio, ond mae'n debygol o gymryd sawl wythnos. Gall y llawdriniaeth arwain at ymdeimlad o golled - os byddwch angen trafod eich teimladau ar ôl cael hysterectomi, efallai y byddech yn cael budd o gwnsela.

Mae llinell gymorth Women's Health Concern yn cynghori pobl ar broblemau gynaecolegol, diwedd y mislif a HRT. Gallwch ffonio'r llinell gymorth ar 0845 123 2319.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU