Trwy gadw'n gorfforol weithgar, bydd eich iechyd a'ch ansawdd bywyd yn gwella a hefyd gall eich helpu i fyw'n hirach. Nid yw hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnwys unrhyw beth o dasgau bob dydd megis glanhau'r tŷ, garddio caled neu fynd â'r ci am dro i ymarfer penodol megis nofio, golff, gweithgarwch yn y gampfa neu denis. Y math gorau o weithgarwch yw un sy’n gwneud i chi deimlo ychydig yn gynhesach ac anadlu ychydig yn drymach, ac sy’n gwneud i’ch calon a’ch pwls guro’n gyflymach nag arfer.
Dyma rai o fanteision cadw'n gorfforol weithgar:
Trwy aros yn gorfforol weithgar, rydych hefyd yn debygol o aros yn annibynnol yn hirach. Gall ymarfer eich gwneud yn gryfach. Byddwch yn teimlo'n fwy hyderus ac yn rhan o fywyd.
Cofiwch, cyn dechrau ar drefn ymarfer newydd, mae'n syniad da siarad â'ch meddyg i ddechrau. Mae eich meddyg lleol hefyd yn fan cychwyn da ar gyfer dysgu am ymarfer er lles eich iechyd.
Mae segurdod yn eich gadael yn fwy agored i'r canlynol:
Os nad ydych wedi ymarfer ers blynyddoedd - ac amcangyfrifir bod pedwar o bob deg person dros 50 yn gwneud dim neu braidd dim ymarfer - dechreuwch gan bwyll a gwneud mwy yn raddol. Os ydych chi’n ymarfer am y tro cyntaf, neu’n ansicr a ddylech roi cynnig ar weithgaredd penodol, siaradwch â’ch meddyg.
Mae'r arbenigwyr yn argymell hanner awr o ymarfer cymedrol o leiaf bum gwaith yr wythnos. Gall yr holl ymarfer gael ei wneud mewn un hanner awr, neu ei rannu'n gyfnodau byrrach o weithgarwch drwy gydol y diwrnod.
Gallai fod yn syniad da dechrau drwy gerdded yn sionc am bum munud yn eich parc lleol, gan gynyddu’n raddol i’r 30 munud llawn dros nifer o wythnosau. Mae cerdded yn dda iawn i'ch iechyd, ac mae cannoedd o grwpiau cerdded ar agor i bob oed ledled y wlad.
Does dim rheswm i roi’r gorau i chwaraeon neu ymarfer corff yr ydych yn eu mwynhau am eich bod yn mynd yn hŷn. Dylech anelu i wneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bum gwaith neu fwy yr wythnos. Hyd yn oed os na fuoch chi’n arbennig o heini yn iau, mae nifer o fuddiannau i wella eich ffitrwydd wrth i chi fynd yn hŷn. Cofiwch ddal i symud a chadw eich symudedd a’ch hyblygrwydd drwy weithgarwch dyddiol hefyd.
Os ydych yn eich 80au a'ch 90au, gall ymarfer rheolaidd ysgafn helpu i gynnal cryfder y cyhyrau a gwella'ch gallu i symud. Trwy weithgarwch dyddiol gallwch gadw eich symudedd a'ch hyblygrwydd
Mae'n hawdd gwneud mwy o weithgarwch corfforol heb orfod gwneud newidiadau mawr i'ch ffordd o fyw. Gallwch ddechrau trwy ei gynnwys yn eich bywyd bob dydd heb fawr ddim ymdrech na chynllunio. Gallwch: