Os ydych chi ar incwm isel, fe all y Taliad Tywydd Oer eich helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn yn eich ardal chi.
Fe gewch y Taliad Tywydd Oer fel mater o drefn ar gyfer pob wythnos o dywydd oer iawn os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn.
Fe gewch chi'r Taliad Tywydd Oer hefyd ar gyfer pob wythnos gymwys os ydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a bod gennych blentyn dan bump neu un o'r canlynol:
Eleni byddwch yn derbyn £25 pan fydd y tymheredd ar gyfartaledd yn eich ardal chi yn sero gradd Celcius yn ôl yr hyn a gofnodir neu a ragwelir, neu'n is na hynny am saith niwrnod di-dor rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Defnyddir gorsafoedd tywydd penodol y Swyddfa Dywydd er mwyn cael y wybodaeth hon.
Ni fydd Taliadau Tywydd Oer yn effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych chi'n eu cael.
Does dim rhaid i chi wneud cais; fe gewch chi'r Taliad Tywydd Oer fel mater o drefn cyn belled â'ch bod yn gymwys.
Dywedwch wrth eich canolfan bensiynau neu'ch Canolfan Byd Gwaith os credwch y dylech chi gael y Taliad Tywydd Oer.