Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynghylch y Cynllun Siwrne Saff Glasurol

Fel rhan o Strategaeth Diogelwch y Ffyrdd y llywodraeth, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) raglen o gyflwyniadau wedi'u hanelu'n benodol at yrwyr dros 50 oed, gan ganolbwyntio'n arbennig ar bobl mewn oedran ymddeol.

Y prif amcan

Wedi'i seilio ar raglen lwyddiannus Siwrne Saff, sy'n hybu gyrru diogel ymhlith plant ysgol a gyrwyr newydd, prif amcan y cyflwyniad hwn yw annog diogelwch ar y ffordd drwy dynnu sylw at faterion gwahanol sy'n berthnasol i'r gyrrwr aeddfetach - yn benodol:

  • mwy o draffig ar y ffyrdd
  • systemau ffordd cymhlethach
  • gofynion trwyddedu pan yn 70 oed
  • gofynion golwg
  • effeithiau meddyginiaeth

Yn fwy cyffredinol, rhoddir gwybodaeth sy'n ymwneud â newidiadau diweddar i'r gyfraith ac i Reolau'r Ffordd Fawr. Bydd y cyflwyniad hefyd yn darparu cyngor ac yn atgoffa ynghylch arferion gyrru da cyffredinol, rhywbeth sy'n berthnasol i yrwyr o bob oed!

Gwybodaeth am y cyflwyniad

Bydd y cyflwyniad yn rhad ac am ddim ac yn cael ei roi gan un o arholwyr gyrru profiadol y DSA, neu un sydd newydd ymddeol. Tua awr fydd hyd y cyflwyniad a bydd yn cynnwys fideo byr, sy'n dangos ac yn rhoi cyngor am y pynciau y cyfeiriwyd atynt uchod. Bydd cyfle hefyd i drafod y materion a godwyd.

Mae'r DSA yn awyddus i gael sylw croestoriad eang o'r gymuned sydd dros 50 oed. Os ydych chi'n aelod o grŵp neu gymdeithas o bobl dros 50 oed, ac os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu drefnu cyflwyniad, ewch i wefan Siwrne Saff. Ceir dolen yn yr adran 'Mwy o ddolenni defnyddiol' i wefan Siwrne Saff Glasurol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU