Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi ymrwymo i ddylanwadu ar agweddau pobl ifanc tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd drwy roi cyflwyniadau i ysgolion, i'r lluoedd arfog ac mewn sefydliadau troseddwyr ifanc.
Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn ymrwymedig i ddylanwadu ar agweddau pobl ifanc tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd, dysgu gyrru a phasio'r prawf gyrru.
Mae'r DSA yn ceisio gwneud hyn drwy rannu gwybodaeth a thrafod materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd. Cynlluniwyd Rhaglen Diogelwch ar y Ffordd Siwrne Saff er mwyn ceisio cyflawni'r nod hwn ac fe'i cyflwynir i amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys ysgolion a cholegau, unedau troseddwyr ifanc , carchardai a grwpiau ieuenctid eraill gyda'r ystod oed darged 16 -19.
Mae'r DSA yn darparu pum math gwahanol o gyflwyniad, a gellir eu haddasu ar gyfer eich anghenion chi ac anghenion eich grwpiau.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Siwrne Saff neu i drefnu cyflwyniad ewch i wefan Siwrne Saff - ceir dolen i'r wefan yn yr adran 'Mwy o ddolenni defnyddiol'
Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn ymrwymedig i ddylanwadu ar agweddau pobl ifanc tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd, dysgu gyrru a phasio'r prawf gyrru. Nid dymuniad yr asiantaeth yw dylanwadu ar bobl ifanc i reidio beic modur nac ychwaith i beidio â gwneud, ond rydym yn cydnabod bod nifer cynyddol o bobl ifanc yn troi at feiciau modur a sgwteri fel ffordd fwy cost effeithiol o deithio yn ogystal ag ar gyfer pleser.
Mae'r cyflwyniad yn canolbwyntio ar y ffaith fod beicwyr ifanc newydd yn agored i niwed ac mae'n cynnwys adran hefyd ar gyfrifoldeb cyd-deithwyr. Yn ystod y cyflwyniad, bydd yr Asiantaeth yn cynnig cyngor am ymwybyddiaeth o beryglon, cynllunio, rhagweld beth mae defnyddwyr eraill ar y ffordd yn debygol o'i wneud a phwysigrwydd 'gweld a chael eich gweld'.
Mae'r cyflwyniad hwn yn mynd i'r afael â'r negeseuon hollbwysig am ddiogelwch ar y ffordd sydd ym modiwl un Siwrne Saff, sydd o fudd i bob gyrrwr ifanc. Fodd bynnag, mae Gallwch Chithau Yrru Hefyd yn canolbwyntio yn ogystal ar y materion sy'n ymwneud â symudedd o ran gyrwyr ifanc sy'n ystyried neu wrthi'n dysgu gyrru.
Clywir y neges hon am ddiogelwch ar y ffyrdd dros 5000 o weithiau'r flwyddyn ac mae'n cyrraedd 50,000 o fyfyrwyr.
Cafodd y rhaglen ei gwerthuso'n annibynnol gan BITER (Sefydliad Ymchwil Addysg Draffig Prydain) a chadarnhawyd fod yr effaith gyffredinol yn bositif iawn a'r cynnwys yn berthnasol i'r grwpiau oedran dan sylw.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Siwrne Saff neu i drefnu cyflwyniad ewch i wefan Siwrne Saff - ceir dolen i'r wefan yn yr adran 'Mwy o ddolenni defnyddiol'.