Os digwydd i chi weld cerbyd ar ffordd gyhoeddus (nid yw meysydd parcio, dreifs neu lefydd parcio cymdeithasau tai yn berthnasol) heb ddisg treth, fe allwch roi gwybod i ni amdano ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post. Does dim rhaid i chi roi eich enw. Bydd eich adroddiad yn arwain at ymchwiliad a chymerir camau gorfodi priodol, os bydd angen.
Darparwch fanylion am y cerbyd:
Darparwch fanylion am leoliad y cerbyd:
Os oes modd, darparwch:
Defnyddiwch y wybodaeth yr ydych wedi'i chasglu i roi gwybod i DVLA am y cerbyd heb dreth:
Ar-lein
Defnyddiwch wasanaeth ar-lein yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Dros y ffôn
Ffoniwch y llinell ffôn gyflym genedlaethol ar gyfer cerbydau heb dreth ar y rhif rhadffôn 0800 0325 202.
Trwy'r post
Anfonwch lythyr at adran orfodi eich Swyddfa DVLA leol agosaf.
Bydd swyddog gorfodi, a fydd yn nodi’n ffurfiol ei fod wedi gweld y cerbyd ac yn llenwi datganiad tyst, yn ymchwilio i’r wybodaeth a ddarparwch ac yn cymryd camau priodol os bydd angen.
Mae gwaith yr heddlu a DVLA yn erbyn twyllwyr treth cerbyd yn cyfrannu'n sylweddol tuag at ddiogelwch ar y ffordd. Mae oddeutu traean o'r modurwyr sy'n cael eu dal yn osgoi talu treth cerbyd hefyd yn cyflawni troseddau eraill – gan gynnwys bod heb dystysgrif MOT, dim yswiriant a theiars diffygiol.