Beth yw'r cynllun MOT?
Pwrpas y cynllun MOT yw sicrhau safonau cyson. Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) sy'n monitro'r cynllun ac mae'n cynnwys:
- goruchwylio tua 18,300 o fodurdai sydd wedi'u hawdurdodi i gynnal profion MOT
- cofnodi dulliau a safonau profi
- cofnodi safonau cyfleusterau, offer, enw da, profiad, gallu, cymwysterau, a threfn weinyddu modurdai sy'n cynnal profion MOT
- darparu hyfforddiant i arholwyr awdurdodedig (AE) a phrofwyr enwebedig (NT)
- darparu hyfforddiant mewn dulliau profi a gweinyddu i'r rhai sy'n rhan o'r cynllun profi MOT (ar ôl cytuno ar y safonau gyda'r Adran Drafnidiaeth)
- sicrhau safonau profi a bod amodau'n cael eu gosod i benodi arholwyr awdurdodedig a phrofwyr enwebedig
- awdurdodi gorsafoedd prawf MOT a phrofwyr enwebedig
- gofalu bod safonau profi yn cael eu cynnal
- cymryd camau disgyblu yn erbyn arholwyr cymeradwy a phrofwyr enwebedig sy'n methu â bodloni'r safonau profi MOT angenrheidiol
- delio ag apeliadau a chwynion eraill gan gwsmeriaid MOT.
VOSA sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn i gyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.