Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich tystysgrif MOT

Mae'ch tystysgrif MOT yn cadarnhau bod eich cerbyd, ar adeg eich prawf, yn bodloni'r safonau sylfaenol gofynnol yn ôl y gyfraith o ran yr amgylchedd a diogelwch ar y ffordd (cyn belled ag y gellir ei bennu'n rhesymol heb ddatgymalu'r cerbyd). Nid yw hyn yn golygu y bydd y cerbyd yn addas i fod ar y ffordd trwy gydol cyfnod y dystysgrif nac yn golygu na fydd angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd arno.

Mae Tystysgrifau MOT wedi newid

Mae'r ffordd y cedwir gwybodaeth am brofion MOT wedi newid. Erbyn hyn, cedwir cofnod o ganlyniadau profion ar gronfa ddata ganolog ddiogel. Nid yw'r newid hwn wedi cael effaith ar eich prawf MOT fel y cyfryw, ond mae wedi cael effaith ar y ffordd y byddwch yn edrych i weld hanes yr MOT.

Mae pob gorsaf brofi MOT wedi cael eu cysylltu â'r gronfa ddata ganolog. Pan gaiff eich cerbyd ei brofi yn un o'r gorsafoedd profi 'cyfrifiadurol' bydd cofnod eich prawf yn cael ei roi yn y gronfa ddata newydd ac fe fyddwch yn derbyn tystysgrif o fath newydd (maint A4).

Gwybodaeth am y dystysgrif MOT newydd

Eich tystysgrif MOT newydd yw eich derbynneb ar gyfer y prawf MOT. Mae'n dangos yr wybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata MOT. Bellach, nid yw'r dystysgrif yn dystiolaeth o MOT ac ni ddylid dibynnu arni fel un. Dim ond y cofnod cyfrifiadurol sy'n gallu profi bod gan gerbyd MOT dilys. Dan y drefn newydd, byddai unrhyw waith a argymhellir fel arfer yn cael ei ddangos ar Hysbysiad Cynghori newydd a bydd yn cael ei roi i chi adeg y prawf.

Noder: Efallai y bydd ar yr heddlu angen gweld eich tystysgrif MOT o hyd, felly cadwch hi mewn man diogel.

Yr angen am dystysgrif MOT

Yn gyffredinol, mae hi'n drosedd defnyddio cerbyd o oedran y mae'n rhaid iddo gael prawf ac nad oes ganddo dystysgrif prawf cyfredol ar ffordd gyhoeddus, heblaw am yr adegau canlynol:

  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd i orsaf brofi ar gyfer prawf a drefnwyd o flaen llaw
  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd o orsaf brofi ar ôl iddo fethu'r prawf, i rywle lle gellir ei atgyweirio
  • mynd â'r cerbyd i fan lle bydd yn cael ei atgyweirio neu fynd ag ef o fan lle cafodd ei atgyweirio er mwyn datrys y problemau a achosodd i'r cerbyd fethu ei brawf, ar ôl trefnu hynny o flaen llaw.

Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau uchod, efallai y cewch eich erlyn p'run bynnag am yrru cerbyd nad yw'n addas i fod ar y ffordd, os nad yw'n cydymffurfio ag amrywiol Reoliadau sy'n ymwneud â'i wneuthuriad a'r defnydd a wneir ohono. Hefyd, efallai na fydd yr yswiriant yn ddilys.

Eich cyfrifoldeb chi fel perchennog y cerbyd yw sicrhau bod y prawf MOT dyledus yn cael ei gynnal mewn pryd. Defnyddiwch y sticer y gallwch ei dynnu oddi ar flaen eich tystysgrif MOT a'i roi mewn lle a fydd yn eich atgoffa o'r dyddiad pan ddaw'r prawf cyfredol i ben, fel y fisor haul neu gefn y daliwr disg treth sy'n wynebu i mewn i'r cerbyd.

Dylech fynd â'ch Tystysgrif MOT gyda chi wrth wneud cais am ddisg treth newydd mewn Swyddfa Bost. Wrth gwrs ni fydd hyn yn berthnasol os nad oes rhaid i'ch cerbyd gael prawf MOT oherwydd ei oed neu ei fath. Os oes gennych dystysgrif MOT math newydd, cewch ddewis aildrwyddedu eich cerbyd ar-lein.

Mae gan yr Heddlu hefyd hawl i weld tystysgrif MOT ar gyfer cerbyd y mae'n ofynnol iddo gael un.

Dim ond cyfeirio at gyflwr eitemau sy'n gorfod cael eu profi mae tystysgrif brawf, a hynny ar adeg y prawf, ac ni ddylid ei hystyried:

  • yn dystiolaeth o gyflwr cerbyd ar unrhyw adeg arall
  • yn dystiolaeth o gyflwr mecanyddol cyffredinol y cerbyd
  • yn dystiolaeth bod y cerbyd yn cydymffurfio'n llawn â'r holl agweddau ar gyfraith adeiladwaith cerbydau a'r ffordd y'u defnyddir

Gwirio dilysrwydd tystysgrif MOT

Os ydych chi'n amau nad yw'r dystysgrif a gawsoch yn un ddilys, cysylltwch â llinell ymholiadau MOT yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ar 08703 300 444 . Bydd pris y galwadau ar y gyfradd genedlaethol.

Cael tystysgrifau newydd yn lle rhai sydd ar goll neu wedi'u difrodi

Os ydych chi wedi colli'ch tystysgrif MOT neu iddi gael ei difrodi, gallwch gael copi gan unrhyw orsaf brofi MOT.

Bydd angen i chi gyflwyno'r rhif cofrestru cerbyd ac un ai'r rhif prawf MOT gwreiddiol neu gyfeirnod y ddogfen (a ddangosir ar y dystysgrif gofrestru V5C a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau).

Uchafswm y ffi ar gyfer tystysgrif arall ar gyfer car yw £10.00.

Allweddumynediad llywodraeth y DU