Oddeutu tair wythnos cyn i'ch disg treth ddod i ben, dylech dderbyn ‘Cais am Drwydded Cerbyd/Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol’ (ffurflen atgoffa V11) gan DVLA. Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 i adnewyddu eich treth ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post neu'n bersonol.
Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o bumed diwrnod o’r mis ymlaen.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen atgoffa V11 i drethu:
Ar-lein neu dros y ffôn
Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich nodyn atgoffa V11.
Yn un o ganghennau Swyddfa’r Post® - yn bersonol neu drwy’r post
Defnyddiwch y ffurflen atgoffa V11 mewn unrhyw gangen Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa.
Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:
Dychwelir y ffurflen atgoffa V11 atoch pan gewch chi'r ddisg treth.
Newid enw neu gyfeiriad
Ysgrifennwch y manylion newydd yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru (V5C), ei llofnodi a’i chynnwys gyda'ch cais am dreth cerbyd mewn cangen Swyddfa’r Post® neu swyddfa DVLA leol.
Newidiadau i’r dosbarth treth, maint yr injan neu'r math o danwydd
Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r ffurflen atgoffa V11 i drethu’ch cerbyd yn un o ganghennau’r Swyddfa Post®.
Os byddwch chi dramor pan fydd eich disg treth yn dod i ben, mae modd i chi drethu ar-lein, trethu ymlaen llaw neu ofyn i rywun drethu’r cerbyd ar eich rhan.
Gellir trethu’r rhan fwyaf o gerbydau yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth, gan ddefnyddio’r ffurflen atgoffa V11. Ar gyfer rhai cerbydau nwyddau trwm (HGV), mae DVLA yn darparu V85/1 (ffurflen atgoffa am drwydded HGV) nad oes modd ei defnyddio ond mewn swyddfa DLVA leol.