Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i wneud cais am ddisg treth ddyblyg

Rhaid i chi gael disg treth newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i dwyn, ei dinistrio neu ei difrodi, neu os nad oes modd ei darllen oherwydd bod y ddisg wedi colli ei lliw. Gallwch gael disg treth ddyblyg yn bersonol neu drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V20 'Cais am ddisg treth ddyblyg'

Beth y mae angen i chi ei wneud

Gwnewch gais yn bersonol yn eich swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol, neu drwy'r post.

Dylech anfon y canlynol neu fynd â hwy gyda chi:

  • ffurflen V20 'Cais am ddisg treth ddyblyg' wedi'i llenwi
  • tystysgrif cofrestru neu atodiad ceidwad newydd
  • ffi o £7 (os bydd angen)
  • y ddisg treth wreiddiol os yw'n dal gennych
  • copi o'r llythyr gwrthod ad-daliad (os yw'n berthnasol)

Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru nac atodiad ceidwad newydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 'Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)'. Bydd angen hefyd i chi gynnwys y ffi o £25 (am dystysgrif cofrestru) gyda'ch cais am ddisg treth ddyblyg.

Os bydd cofnodion DVLA yn dangos mai chi yw'r ceidwad cofrestredig a bod y cerbyd wedi'i drethu ar hyn o bryd, bydd y swyddfa DVLA leol yn anfon disg treth ddyblyg atoch yn ddi-oed. Fel arall, bydd DVLA yn dal eich cais yn ôl nes bydd cofnod y cerbyd wedi'i ddiweddaru. Efallai y rhoddir disg treth ddyblyg dros dro i chi, a bydd yn ddilys am hyd at wyth wythnos. Cyn gynted ag y bydd y cofnodion wedi’u diweddaru, rhoddir disg treth ddyblyg lawn i chi.

Gellir defnyddio'r atodiad ceidwad newydd mewn swyddfa DVLA leol am hyd at 13 mis ar ôl dyddiad prynu'r cerbyd. Os yw dyddiad y ddisg treth wedi dod i ben, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)' yn ei le. Dylech gynnwys hon a’r atodiad ceidwad newydd gyda'ch cais. Does dim angen y ffi o £25.

Y ffi ar gyfer disg treth ddyblyg

Mae disg treth ddyblyg yn costio £7, ac fel arfer ni chewch ad-daliad unwaith y bydd y swyddfa DVLA leol wedi cael y cais.

Does dim angen i chi dalu ffi'r ddisg treth:

  • os nad oes modd darllen y ddisg treth neu os yw'r lliw wedi pylu
  • os yw'r ddisg treth wedi mynd ar goll yn y post
  • os yw'r heddlu yn cadw'r ddisg treth fel tystiolaeth
  • os yw DVLA wedi gwrthod ffurflen V14 'Cais am ad-daliad treth cerbyd' – mae angen amgáu copi o'r llythyr gwrthod gyda ffurflen V20

Does dim angen i chi dalu'r ffi ychwaith os:

  • nad oes rhaid talu treth cerbyd ar y cerbyd, fel y dosbarth treth anabl
  • yw'r cerbyd wedi’i ddwyn a’ch bod yn ei gael yn ôl heb y ddisg treth

Sut mae gweld a ydy’ch cerbyd wedi’i drethu

Cewch holi am ddyddiad dod-i-ben eich disg treth drwy wneud 'ymholiad am gerbyd' ar-lein. Nodwch rif cofrestru a gwneuthuriad eich cerbyd.

Os dewch o hyd i'r ddisg treth wreiddiol

Gan nad yw'r ddisg wreiddiol yn ddilys mwyach, rhaid ei dychwelyd i'r swyddfa DVLA leol a roddodd y ddisg ddyblyg i chi. Cadwch y ddisg treth ddyblyg ar y cerbyd.

Disg treth sydd wedi’i dwyn

Dywedwch wrth yr heddlu os yw eich disg treth wedi’i dwyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU