Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn os:
Gallwch adnewyddu eich treth unrhyw bryd ar ôl pumed diwrnod y mis.
Os yw'n well gennych dalu'r dreth yn ystod diwrnodau olaf y mis, mae bellach yn bosib i chi gael eich eithrio rhag y drosedd o beidio â dangos disg treth. Mae'r eithriad hwn yn cynnwys pum diwrnod gwaith cyntaf y mis ac yn caniatáu amser i'r ddisg newydd gyrraedd yn y post.
I gael eich eithrio, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau cyn i'r ddisg treth neu'r HOS cyfredol ddod i ben.
Caiff yswiriant, MOT a'r hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd eu gwirio yn electronig yn ystod y broses o wneud cais. Bydd disg treth a derbynneb ar gyfer y taliad yn cael eu postio atoch o fewn pum diwrnod gwaith.
Caiff yswiriant dilys ar y diwrnod y byddwch am i'r ddisg treth ddod i rym (neu'r dyddiad y byddwch yn gwneud cais amdano, os bydd hyn yn hwyrach) ei wirio gan y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau sy'n cael ei chynnal gan y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau. Os ydych yn adnewyddu eich treth cerbyd a'ch yswiriant ar yr un pryd neu os ydych wedi newid eich cwmni yswiriant yn ddiweddar, mae'n bosib y bydd problemau wrth wirio'r yswiriant wrth aros i'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau gael ei diweddaru.
Cyn i chi drethu eich cerbyd, gallwch weld ar-lein os yw'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau wedi'i diweddaru. Dim ond i'r diwrnod y byddwch yn gwirio hyn y bydd y canlyniad yn berthnasol.
Sicrhewch fod y canlynol gennych wrth law:
Gwnewch gais dros y ffôn ar 0870 850 4444. Ffôn testun/minicom 0870 850 4445.
Bydd angen i chi drethu'ch cerbyd yn y ffordd arferol.