Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhyddhau gwybodaeth o gofnodion y DVLA

Caiff cofrestr cerbydau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ei chadw'n bennaf er mwyn gwybod pa gerbydau sydd ar ffyrdd cyhoeddus, i helpu i orfodi'r gyfraith a chasglu trethi, ac i wella diogelwch ar y ffyrdd.

Anghenion diogelu data

Mae’r gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i’r Asiantaeth amddiffyn preifatrwydd modurwyr unigol a sicrhau bod data personol yn cael ei ddefnyddio'n deg ac yn gyfreithlon. Fodd bynnag, er nad yw'r gofrestr gerbydau'n gofnod agored, o dan amgylchiadau arbennig fe ellir defnyddio'r data'n briodol ar gyfer dibenion eraill.

Rhyddhau gwybodaeth o gofrestr cerbydau'r DVLA

Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â rhyddhau gwybodaeth o'r gofrestr cerbydau wedi eu hen sefydlu ers y dyddiau cyn bodolaeth y DVLA. Roedd darpariaethau union yr un fath ar gael i gynghorau lleol pan oedden nhw'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb o gofrestru a thrwyddedu cerbydau.

Ar hyn o bryd, mae Rheoliad 27 o Reoliadau Cerbydau'r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002 yn mynnu bod yr Asiantaeth yn rhyddhau gwybodaeth o'i chofrestr cerbydau i heddlu ac awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i ymchwilio i droseddau a chanfod pobl sy'n torri rheolau parcio, ac i unrhyw un sy'n dangos bod ganddynt ‘achos rhesymol’ i gael gweld y wybodaeth. Mae'r rheoliadau hefyd yn caniatáu codi tâl er mwyn talu am y gost o brosesu ceisiadau.

Ni ddisgrifir ‘achos rhesymol’ mewn deddfwriaeth, ond cysylltir rhyddhau'r wybodaeth fel arfer â diogelwch ar y ffordd, digwyddiadau sy'n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ddefnyddio'r cerbyd, gorfodi deddfwriaeth traffig ffordd a chasglu trethi. Cyn rhyddhau'r wybodaeth, rhaid i'r Asiantaeth werthuso'n ofalus y rhesymau dros wneud y cais, yn ogystal ag ystyried sut y defnyddir y wybodaeth.

Mae hyn yn golygu y caiff gwybodaeth ei rhyddhau'n gyfreithlon ar gyfer amrywiaeth o ddibenion dan y darpariaethau achos rhesymol. Rhestrir isod amgylchiadau a ystyriwyd yn ‘achosion rhesymol’ yn y gorffennol. Mae rhestr o gyrff a ystyriwyd yn rhesymol gan yr Asiantaeth hefyd ar gael.

Caiff gwybodaeth ei rhyddhau ar yr amod ei bod yn berthnasol i'r diben y gofynnwyd amdani, ac mai dim ond ar gyfer y diben hwnnw y'i defnyddir. Dan y Ddeddf Diogelu Data, mae cael gafael ar wybodaeth drwy ymhoniad anwir neu ddefnyddio'r wybodaeth ar gyfer unrhyw ddiben arall ac eithrio'r diben y rhyddhawyd hi yn drosedd. Bydd yr Asiantaeth yn cyfeirio unrhyw geisiadau amheus at y Comisiynydd Gwybodaeth i gael eu hymchwilio ac i'w herlyn lle bo hynny'n briodol.

Rhesymau dros ryddhau gwybodaeth oddi ar y gofrestr gerbydau

  • gwneuthurwr cerbyd yn galw cerbyd yn ôl am resymau diogelwch – i alluogi'r gwneuthurwr, neu asiant sy'n gweithredu ar ei ran, olrhain ceidwaid er mwyn sicrhau bod cerbyd yn cael ei archwilio a bod unrhyw addasiadau'n cael eu gwneud
  • cerbydau wedi'u gadael – er mwyn helpu i olrhain ceidwaid sy'n gadael eu cerbydau ar eiddo preifat, y tu allan i reolaeth awdurdodau lleol
  • mân ddigwyddiadau lle mae pobl wedi taro rhywun mewn damwain ac wedi dianc – er mwyn helpu i olrhain ceidwaid cerbydau sydd wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad damwain a dianc nad yw'r heddlu'n gwarantu ei ymchwilio'n llawn. Gallai amgylchiadau o'r fath gynnwys digwyddiadau lle bu anaf personol neu lle difrodwyd eiddo
  • taliadau toll/ffordd – gellir rhyddhau gwybodaeth er mwyn helpu i olrhain ceidwaid cerbydau nad ydynt wedi talu tollau wrth fynd ar ffordd, drwy dwnel neu dros bont
  • gyrru ymaith heb dalu – er mwyn helpu i olrhain cerbydau sydd wedi gyrru ymaith heb dalu am nwyddau neu wasanaethau. Gallai amgylchiadau gynnwys peidio â thalu am betrol neu beidio â thalu costau trwsio cerbyd
  • parcio ar dir preifat heb awdurdod – er mwyn helpu landlordiaid neu'u hasiantau i ganfod ceidwaid sy'n parcio mewn mannau sy'n rhwystro eraill rhag cael mynediad at lefydd, sy'n mynd yn groes i gyfyngiadau parcio neu'n tresbasu ar dir preifat
  • amheuaeth o dwyll – pennu ceidwaid cerbydau lle derbyniwyd hawliadau yswiriant
  • ymchwiliadau i amheuaeth o ymyrryd â'r cloc milltiroedd – i gadarnhau bod cyfrif milltiroedd y cerbyd yn ddilys
  • gorfodi troseddau sy'n gysylltiedig â thraffig oddi allan i'r DU – i asiantau o'r DU sy'n gweithredu ar ran awdurdodau nad ydynt yn awdurdodau o'r DU i erlid ceidwaid am beidio â thalu cosbau am barcio a throseddau ffordd eraill y tu allan i'r DU
  • taliadau siec wedi'u dwyn – ymchwilio i daliadau sy'n gysylltiedig â cherbyd o ran defnyddio sieciau wedi'u dwyn
  • olrhain asedau cwmnïau – i ddiddymwr a benodwyd gan y llys mewn achos ansolfedd i gadarnhau pa asedau sydd gan gwmni
  • cadarnhad o fanylion ceidwaid er mwyn sicrhau bod y beili neu'r asiantau casglu dyledion yn cael gafael ar y cerbyd iawn dan orchymyn llys
  • person sy'n gweithredu fel ysgutor ystâd person ymadawedig er mwyn cadarnhau pa gerbydau yr oedd yn berchen arnynt

Beth i'w wneud os ydych yn amau bod rhywun wedi gofyn am eich manylion yn anghyfreithlon

Os tybiwch fod rhywun wedi cael gafael ar eich manylion yn anghyfreithlon neu fod eich manylion wedi cael eu camddefnyddio, dylech ysgrifennu at: Rhyddhau Gwybodaeth / Release of Information, Adran Ymholiadau Talu Ffioedd, DVLA, Abertawe SA99 1AJ. Dylech gynnwys manylion ynghylch sut y camddefnyddiwyd y wybodaeth a rhif cofrestru'ch cerbyd. Bydd DVLA yn ymchwilio pob honiad lle mae rhywun wedi gofyn am wybodaeth yn anghyfreithlon a, lle bo hynny'n briodol, yn cyfeirio'r honiad at y Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn erlyn.

Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd y mae DVLA wedi delio â'ch cwyn, dylech gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow SK9 5AF.

Er bod DVLA yn awyddus i sicrhau mai dim ond dan amgylchiadau priodol y rhyddheir gwybodaeth, nid oes ganddo'r awdurdod i gyflafareddu mewn anghydfodau rhwng partïon. Rhaid i bartïon benderfynu ymysg ei gilydd ynghylch anghydfodau'n ymwneud ag amgylchiadau sy'n arwain at ddigwyddiad ac yn y blaen.

Gwneud cais am wybodaeth o gofnodion DVLA

Dylid gwneud cais am wybodaeth o gofnodion DVLA drwy lythyr. Fe allwch chi ofyn am wybodaeth bersonol amdanoch chi, neu am wybodaeth am geidwaid cerbydau eraill. Gellir gwneud cais am wybodaeth am gerbydau ar-lein neu dros y ffôn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU