Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwisgo gwregys diogelwch a'r eithriadau

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol eich bod yn gwisgo gwregys diogelwch os oes un wedi'i osod. Er eich diogelwch chi ac eraill, dylech ddarllen a deall y gyfraith a dysgu sut i ddefnyddio gwregysau diogelwch, gwregysau i blant (seddau car/seddau codi i fabanod/plant) yn briodol. Ceir eithriad rhag gwisgo gwregys diogelwch ar sail feddygol.

Y gyfraith - gwregysau diogelwch a gwregysau i blant

Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i yrwyr a theithwyr 14 oed a hŷn mewn ceir, faniau a cherbydau masnachol eraill wisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael. Fel gyrrwr, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw un o dan 14 oed yn gwisgo gwregys diogelwch neu'n defnyddio'r gwregys i blant priodol fel sy'n ofynnol yn y rheoliadau. Ar 18 Medi 2006, newidiodd y gyfraith sy'n ymwneud â phlant yn defnyddio gwregysau diogelwch a gwregysau i blant. I gael gwybod mwy am y gyfraith newydd a'ch cyfrifoldebau fel gyrrwr, cliciwch ar y ddolen isod.

Defnyddio gwregysau diogelwch a gwregysau i blant yn gywir

Gallai cymryd eich amser i sicrhau eich bod yn defnyddio gwregys diogelwch neu'n ffitio gwregys i blant yn gywir helpu i arbed bywydau a lleihau anafiadau pe byddech yn cael damwain.

Gwisgo gwregys diogelwch ar fws mini, bws neu fws moethus

Os ydych yn teithio ar fws mini, mae'n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael (neu wregys i blant os oes un ar gael). Ar fws neu fws moethus, os ydych yn 14 oed neu'n hŷn mae'n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael. Mae rheoliadau yn yr arfaeth a fydd yn mynnu bod plant rhwng tair a 13 oed yn defnyddio gwregysau diogelwch (neu wregysau plant os ydynt ar gael) mewn bysiau a bysiau moethus, a'r bwriad yw cyflwyno'r rheoliadau hyn cyn gynted â phosib.

Eithriadau rhag gwisgo gwregys diogelwch

Gallwch gael eich eithrio rhag gwisgo gwregys diogelwch ar sail feddygol. Bydd eich meddyg yn rhoi 'Tystysgrif Eithrio rhag Gorfod Gwisgo Gwregys Diogelwch' i chi os bydd yn penderfynu nad yw'n addas i chi wisgo gwregys diogelwch ar sail feddygol. Rhaid dangos y dystysgrif hon os bydd yr heddlu yn gofyn amdani.

Gwisgo gwregys diogelwch tra byddwch yn feichiog

Mae'n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch os ydych yn feichiog oni bai i'ch meddyg dystio eich bod wedi'ch eithrio ar sail feddygol. Bydd gwisgo eich gwregys diogelwch yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch plentyn yn y groth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU