Gellir trefnu profion theori, ac, ar yr amod y rhoddir tri diwrnod gwaith o rybudd, eu newid a'u canslo gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein neu dros y ffôn. Fe allwch chi hefyd lwytho ffurflen gais o'r fan hon a gwneud cais drwy'r post.
Cyn i chi sefyll eich prawf theori, bydd angen i chi sicrhau bod gennych drwydded yrru dros dro ddilys. Gallwch wneud cais am drwydded yrru dros dro gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gellir cael y ffurflen gais D1 o'ch Swyddfa Bost leol.
Unwaith i chi gael trwydded yrru dros dro ddilys, fe allwch chi drefnu eich prawf theori. Mae amseroedd aros yn amrywio o ardal i ardal, ond y targed bellach yw bod 95 y cant o ymgeiswyr y prawf theori yn cael diwrnod prawf o fewn pythefnos i'w dewis
I drefnu prawf theori ar-lein bydd angen arnoch:
Cliciwch ar y ddolen isod i drefnu prawf theori ar-lein.
I drefnu prawf theori dros y ffôn bydd arnoch angen:
Mae modd i chi drefnu prawf theori dros y ffôn gan ddefnyddio'r rhifau isod, rhwng 8.00 am a 6.00 pm ar wahân i Wyliau Banc.
Llinell archebu prawf theori - 0300 200 1122
Llinell archebu iaith Gymraeg - 0300 200 1133
Llinell archebu Minicom - 0300 200 1166
Llinell archebu ffacs - 0300 200 1177
I drefnu prawf theori drwy'r post bydd angen ffurflen gais arnoch. Gellir cael ffurflenni cais ar-lein neu drwy wneud cais drwy linell drefnu'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Gellir talu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod.
Fe allwch chi aildrefnu neu ganslo prawf drwy'r llinell drefnu dros y ffôn neu fe allwch wneud hynny ar-lein. Ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd o dri diwrnod gwaith llawn i'r DSA, fe allwch chi: