Mae dwy ran i'r prawf theori; y rhan dewis atebion a'r rhan adnabod peryglon. Rhaid i chi basio'r ddwy ran i basio'r prawf theori. Unwaith i chi basio'r prawf theori, fe gewch chi wneud cais i sefyll eich prawf gyrru ymarferol.
Mae'r rhan dewis atebion yn golygu cyffwrdd sgrin cyfrifiadur, ac mae'r rhan adnabod peryglon yn cofnodi'ch ymatebion wrth i chi ddefnyddio botwm ar lygoden gyfrifiadur.
Os byddwch chi'n pasio un rhan ac yn methu'r llall, byddwch yn methu'r prawf i gyd, a bydd angen i chi sefyll y ddwy ran eto.
Mae'r cwestiynau yn y prawf dewis atebion yn amrywio yn ôl categori'r cerbyd rydych chi'n ceisio cael trwydded ar ei gyfer, e.e. ar gyfer prawf beic modur, gofynnir cwestiynau penodol nad ydynt yn rhan o unrhyw brawf arall.
Ar gyfer y prawf adnabod peryglon, nid oes fersiynau gwahanol ar gyfer gwahanol gerbydau, a'r un yw'r prawf ar gyfer pob categori cerbyd, er bod y marc pasio yn wahanol ar gyfer categorïau prawf gwahanol.
Caiff profion amlddewis ac adnabod peryglon ar gyfer lorïau a bysiau eu harchebu a'u sefyll ar wahân.
Cyn i'r prawf ddechrau fe gewch chi gyfarwyddiadau yn nodi sut mae'r prawf yn gweithio.
Fe gewch chi hefyd gynnig sesiwn ymarfer ar y cwestiynau amlddewis er mwyn dod i arfer â sut mae'r prawf yn gweithio. Ar ddiwedd y sesiwn ymarfer, bydd y prawf go iawn yn dechrau.
Bydd cwestiwn â dewis o sawl ateb gwahanol yn ymddangos ar y sgrin a rhaid i chi ddewis yr ateb cywir i'r cwestiwn drwy gyffwrdd y sgrin. Gall fod mwy nag un ateb i rai cwestiynau.
Ar gyfer ceir a beiciau modur, gofynnir 50 cwestiwn i chi mewn 57 munud, a'r marc pasio yw 43 allan o 50.
Ar gyfer lorïau a bysiau, gofynnir 100 cwestiwn i chi mewn 115 munud, a'r marc pasio yw 85 allan o 100.
Fe allwch chi symud rhwng cwestiynau a rhoi 'baner' ar gwestiynau y byddwch yn dymuno mynd yn ôl atynt yn ddiweddarach yn y prawf. Ar ôl y rhan amlddewis, fe allwch chi ddewis cael toriad o hyd at dri munud cyn i'r prawf adnabod peryglon ddechrau.
Ar ôl y toriad, dangosir clip fideo byr i chi yn dangos sut mae'r rhan adnabod peryglon yn gweithio.
Mae'r rhan adnabod peryglon hefyd yn cael ei roi ar gyfrifiadur, ond rydych chi'n ymateb drwy glicio botwm ar y llygoden. Bydd cyfres o 14 clip fideo yn cael ei dangos i chi o sefyllfaoedd o ddydd i ddydd ar y ffordd. Ym mhob clip, bydd o leiaf un perygl yn datblygu, ond bydd dau berygl yn datblygu yn un o'r clipiau.
Er mwyn cael sgôr uchel, bydd angen i chi ymateb i'r perygl sy'n datblygu wrth iddo ddechrau ymddangos. Y mwyaf y gallwch chi ei sgorio ar gyfer pob perygl yw pump.
Ni fyddwch yn gallu newid eich atebion i'r prawf adnabod peryglon; fel ar y ffordd, dim ond un cyfle fydd gennych chi i ymateb i'r perygl sy'n datblygu.
Y marc pasio ar gyfer y rhan adnabod peryglon ar gyfer car a beic modur yw 44 allan o 75. Ar gyfer lorïau a bysiau, y marc pasio yw 50 allan o 75.
Mae'r prawf adnabod peryglon ar wahân i lorïau a bysiau yn cynnwys 19 clip fideo, a bydd o leiaf un perygl yn datblygu ym mhob clip. Y marc pasio fydd 67 allan o 100.
Ar ddiwedd rhan adnabod peryglon y prawf theori, fe'ch gwahoddir i ateb nifer o gwestiynau ar gyfer arolwg cwsmeriaid.
Nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau os nad ydych chi'n dymuno, a bydd y wybodaeth a roddir yn ddienw ac yn gyfrinachol. Nid yw cwestiynau'r arolwg yn gallu effeithio ar ganlyniad y prawf.
Unwaith i chi orffen y prawf, fe gewch chi adael yr ystafell arholi. Unwaith i chi adael yr ystafell, chewch chi ddim mynd yn ôl i mewn. Bydd staff y ganolfan arholi wedyn yn rhoi'ch canlyniad i chi.
Ar gyfer ymgeiswyr lorïau a bysiau, cyn gynted ag y byddwch wedi pasio'r ddau brawf, byddwch hefyd yn derbyn llythyr tystysgrif pasio drwy'r post.